Salm 110

Mae’r Salm hon yn cael ei disgrifio fel ‘Salm Frenhinol’ neu ‘Salm Feseianaidd’ (gw.Salm 2), ac yn son am orseddu’r brenin mae Duw wedi ei ddewis – y brenin delfrydol.  Cafodd ei chyflawni’n llawn yn Iesu Grist  (Yn Marc 12:35-37 mae Iesu’n cymhwyso’r salm yma iddo’i hun).  Mae’r adnod gyntaf yn cael ei dyfynnu’n amlach yn y Testament Newydd nag unrhyw adnod arall o’r Hen Destament (cf.Mathew 22:44; Marc 14:62; 1 Corinthiaid 15:25; Effesiaid 1:20; Colosiaid 3:1; Hebreaid 1:13; 10:12,13).  I ddeall adnod 3 dylid darllen Hebreaid 5:7-11; 6:20-7:28 (cf. Genesis 14:17-24).