Salm 119

Hon ydy’r salm hiraf a mwyaf cymhleth ei phatrwm.  Mae’n rhannu yn 22 adran o wyth adnod yr un, ac mae pob adran yn dechrau gyda llythyren olynol yr wyddor h.y. mae yna fframwaith Acrostig iddi.  Ond hefyd mae pob adnod o fewn pob adran yn dechrau gyda’r un llythyren.

Mae’r salmydd yn canmol y Gyfraith.  Mae’n dangos brwdfrydedd a dyfalbarhad wrth ymgolli’n llwyr yn y dasg o geisio deall cyfraith Dduw.  Mae am i ddysgeidiaeth Duw reoli ei fywyd a’i ymddygiad, ac mae’n cyffesu mai dyna sy’n rhoi gobaith, heddwch a bywyd iddo.

Aleff (adn.1-8) – Mae’n son am y fendith sydd i’r bobl hynny sy’n ffyddlon i Dduw, yn ei geisio ac yn byw iddo.  Mae’r salmydd yn dweud ei fod o am fyw felly.

Bet (adn.9-16) – yr unig ffordd y gall rhywun ifanc fyw bywyd glân ydy trwy fod yn ffyddlon i neges Duw yn ei Air, ac mae’r salmydd yn dweud mai dyma mae o am ei wneud.

Gimel (adn.17-24) – Mae’n gofyn i Dduw ei helpu i ddeall neges Duw a bod yn ufudd iddo.

Dalet (adn.25-32) – mae’n gofyn eto am help Duw ac yn cydnabod ei fod yn methu yn ei nerth ei hun.

He (adn.33-40) – Mae am i Dduw ei hun ei ddysgu a’i arwain a’i gadw ar y llwybr iawn.

Faf (adn.41-48) – Mae’n galw ar Dduw i drugarhau wrtho a’i achub.  Mae am bwyso yn unig ar addewidion Duw a sefyll ar y sicrwydd yna heb gywilydd (cf.2 Timotheus 1:12)

Tsayin (adn.49-56) – Mae’n cael ei watwar ond mae’n dal ei afael yn addewidion Duw.  Mae’r gwrthwynebiad yn ei ddychryn weithiau ond mae deddfau Duw yn gysur, yn llawenydd ac yn gadernid.

Chet (adn.57-64) – mae’n ymbil am drugaredd Duw yn wyneb y rhai sy’n ei wrthwynebu.  Mae’n glynu wrth Dduw a’i orchmynion, a’i frodyr a’i chwiorydd yn y ffydd.

Tet (adn.65-72) – Mae’n son am ddaioni Duw tuag ato a’i awydd o’i hun i ddeall, i gredu ac i ufuddhau.  Mae’n cyffesu ei fod wedi mynd ar gyfeiliorn ond fod Duw wedi ei arwain yn ôl.

Iod (adn.73-80) – Mae’n cyffesu mai Duw wnaeth ei greu, ac mae’n hiraethu am fod yn ffyddlon iddo.  Mae ei brofiadau a’i ffydd yn peri llawenydd i gredinwyr eraill.

Caff (adn.81-88) – Mae’n dweud ei fod yn teimlo’n gwbl ddiymadferth. Mae gwrthwynebwyr yn ei erlid.  Mae ar fin anobeithio.  All o wneud dim ond disgwyl wrth Dduw.

Lamed (adn.89-96) – Mae geiriau’r ARGLWYDD yn hollol sicr.  Onibai fod y salmydd yn trystio beth mae Duw’n ei ddweud byddai wedi anobeithio’n llwyr.

Mem (adn.97-104) – mae’n dweud ei fod yn myfyrio ar neges Duw bob dydd, a bod hynny’n ei wneud yn ddoethach na’i elynion.

Nwn (adn.105-112) – Mae wedi ymroi’n llwyr i ddeall neges Duw ac eto mae’n dioddef.  Mae’n galw ar Dduw i gymryd sylw ohono a’i ddysgu yn ei ffyrdd.  Er gwaetha’r gwrthwynebiad mae wedi rhoi ei fryd ar fod yn ffyddlon.

Samech (adn.113-120) – Duw sy’n ei amddiffyn, a geiriau Duw sy’n rhoi gobaith iddo.  Mae’n benderfynol o gadw gorchmynion Duw.

Ain (adn.121-128) – Mae’n galw ar Dduw i ymyrryd yn y sefyllfa, am ei fod yn teimlo fod ei ffydd yn pallu.  Mae’n galw ar Dduw i ddelio gyda’r bobl sy’n ei ormesu.

Pe (adn.129-136) – Mae’n tystio fod deddfau Duw yn rhyfeddol ac yn goleuo materion.  Mae eisiau i Dduw ei arwain, ei achub a’i ddysgu.  Mae gweld fod pobl ddim yn ufudd i’r ARGLWYDD yn torri ei galon.

Tsadi (adn.137-144) – Mae’r salmydd yn tystio fod Duw yn gyfiawn.  Mae’n gweld ei hun yn ddim, ac yn gwbl siwr mai Duw ydy ei unig obaith.

Coff (adn.145-152) – Mae’n gweiddi ar i Dduw ei achub.  Mae’n galw arno o fore gwyn tan nos, ac yn erfyn ar i Dduw wrando, trugarhau a rhoi bywyd iddo.

Resh (adn.153-160) – Yn wyneb yr holl elynion sy’n ymosod arno, Duw ydy ei unig obaith.

Sin (adn.161-168) – Mae’n cael ei erlid, ond drwy’r cwbl mae’n mynnu glynu wrth Dduw a cadw ei orchmynion.  Mae ei fywyd fel llyfr agored o flaen Duw – does dim byd yn guddiedig.

Taf (adn.169-176) – Mae am i Dduw wrando ar ei weddi a’i alluogi i ddeall ei neges.  Mae’n cydnabod ei fod wedi mynd ar gyfeiliorn ond yn galw ar Dduw i’w arwain yn ôl.