Salm 119:47

Mae Salm 119 yn dathlu gorchmynion Duw yn ei Gyfraith.  Mae’r Salmydd yn mynegi’r pleser mae’n ei gael wrth fyfyrio arnyn nhw, a’r wefr a’r  cariad mae’n ei deimlo tuag atyn nhw.  Doedd y Gyfraith roddodd Duw i Moses ddim fel llyfr o reolau caled, oeraidd a gormesol; roedd yn gyfrwng bendith ac o les i’w bobl.