Salm 145

Mae Salmau 145 i 150 yn grŵp o salmau mawl wedi eu bwriadu ar gyfer addoliad cyhoeddus.  Mae Iddewon yn eu defnyddio hyd heddiw yn eu gweddiau dyddiol.  Mae pob un yn dechrau a darfod gyda “Haleliwia!” (sef Molwch yr ARGLWYDD).

Mae’r salm yma yn erdd Acrostig. Mewn Cerdd Acrostig mae llinellau neu syniadau newydd yn dechrau gyda llythrennau’r wyddor Hebraeg yn eu tro.  Mae’r salmydd yn disgrifio mawredd a gallu Duw, ei gariad a’i faddeuant, ei ddaioni a’i ffyddlondeb, ei gyfiawnder a’i drugaredd.