Salm 27

adn.1-6 – mae’r adnodau yma yn dangos fod holl agwedd Dafydd at fywyd yn seiliedig ar ei berthynas gyda’r ARGLWYDD.  Does dim i’w ofni gan ei fod yn gwybod fod Duw yn ei amddiffyn.  Ei ddyhead dyfnaf ydy byw mewn perthynas agos â’r ARGLWYDD a gweld ei ysblander.

adn.7-14 – Mae Dafydd yn troi at Dduw ac yn gofyn iddo wrando ar ei weddi a gofalu amdano.  Yna mae’n annog ei hun (ac eraill) i ddal ati i obeithio yn yr ARGLWYDD.