Salm 61

Mae’r Salm yma, a Salmau 62 a 63 yn mynd gyda’i gilydd, a dylid eu darllen yng ngoleuni’r hanes yn 2 Samuel 15-17 – sef hanes y cyfnod pan oedd Absalom wedi gwrthryfela a chipio’r orsedd a’i dad Dafydd yn ffoadur.

Mae Dafydd yn gweddïo ar i Dduw ei amddiffyn.  Mae’n dweud fel mae Duw wedi ei amddiffyn yn y gorffennol ac yn mynegi ei obaith a’i hyder yn Nuw.  Duw ydy’r unig un all y brenin ei drystio.