Roedd Sechareia yn proffwydo rhwng tua 520 a 475 C.C. Fel Haggai, roedd yntau yn galw ar y bobl yn Jerwsalem i ailadeiladu’r deml. Ond yn ôl Sechareia, y peth sylfaenol oedd eu perthynas nhw â Duw – mae’n galw arnyn nhw i droi yn ôl ato, a peidio bod yn ystyfnig fel eu hynafiaid. Yn y seithfed bennod mae’n dangos mai cyfiawnder a charedigrwydd mae Duw eisiau, nid rhyw grefydda arwynebol.
Mae gweledigaethau’r chwe pennod cyntaf yn ddarluniau sy’n eu hannog i fwrw iddi, am fod Duw yn rhoi dechrau newydd iddyn nhw. Mae ail hanner y llyfr yn dangos fod y dechrau newydd yma yn mynd i droi’n obaith i’r byd. Yna mae yma broffwydoliaethau am y Meseia oedd i ddod ryw ddydd – darluniau o ddioddefaint a brwydrau ysbrydol wnaeth helpu’r Cristnogion cynnar i ddeall marwolaeth, atgyfodiad ac ail-ddyfodiad Iesu Grist.