Solomon

Cymeriad yn yr Hen Destament o gyfnod y Deyrnas Unedig (1050 – 930 C.C.). Trydydd brenin Israel – yn teyrnasu tua 970 – 930 C.C.. Mab Dafydd a Bathsheba. Mae hefyd yn cael ei alw yn Jedida (“un annwyl yr Arglwydd”) gan y proffwyd Nathan (2 Sam 12:25) Daeth yn enwog iawn am ei gyfoeth a’i ddoethineb, ac mae dau lyfr yn yr Hen Destament, Caniad Solomon a llyfr y Diarhebion, yn cael eu cysylltu gydag o. Mae hefyd yn enwog oherwydd ei fod wedi adeiladu’r deml gyntaf yn Jerwsalem, ac mae disgrifiad manwl o’r adeilad a’r gwaith adeiladu yn llyfr 1 Brenhinoedd. Dyma rai o brif ddigwyddiadau bywyd Solomon.
• Solomon yn dod yn frenin wedi i’w dad Dafydd farw
• Duw yn bendithio Solomon gyda doethineb a chyfoeth.
• Solomon yn barnu’n ddoeth rhwng dwy wraig oedd yn hawlio plentyn
• Solomon yn adeiladu teml fawr yn Jerwsalem
• Dod ag arch y cyfamod (y bocs oedd yn dal y Deg Gorchymyn) i’r deml
• Brenhines Sheba yn dod at Solomon
• Cyfoeth Solomon 1 Brenhinoedd 4:26
• Solomon yn troi oddi wrth Dduw, a Duw yn ei rybuddio.
• Marwolaeth Solomon
(gweler 1 Brenhinoedd. 2:12–11.43; Nehemeia 1:.45; 13:26; Diarhebion 1:1; Caniad Solomon 1:1; Mathew 1:6-7; 6:29; 12:42; Luc 11:31; 12:27; Ioan 10:32; Actau3:11; 5:12; 7:47)