Tabitha

 

Cymeriad yn y Testament Newydd, o gyfnod yr Eglwys Fore. Ei henw Groegaidd oedd Dorcas. Roedd hi’n aelod yn eglwys Joppa ac yn adnabyddus fel gwraig oedd yn gwneud llawer iawn o bethau da. Wedi iddi hi farw anfonodd yr eglwys ddau aelod i Lyda i ofyn i Pedr ddod i Joppa. Pan gyrhaeddodd Pedr dŷ Tabitha, dilynodd Pedr esiampl Iesu Grist. Anfonodd y galarwyr allan, ac yna penlinio a gweddïo. Daeth Tabitha yn ôl yn fyw. Mae hi’n cael ei galw yn ddisgybl – peth anarferol iawn i wraig yng nghyfnod y Testament Newydd.
(gweler Actau 9:36, 40 hefyd DORCAS)