Tiberias

 

a. Dinas Tiberias
• Roedd dinas o’r enw Tiberias yng nghyfnod y Testament Newydd. Dyma’r Tubarich fodern ar lan gogledd orllewin Llyn Galilea yng ngwlad Israel.
• Mae traddodiad yn dweud mai Herod Antipas sefydlodd y ddinas ar safle dinas arall. Rhoiodd yr enw Tiberias arni er clod i’r Ymerawdwr. Roedd yn ddinas baganaidd iawn ac roedd ynddi theatr, fforwm, stadiwm, palas a delwau o frenhinoedd ac ymerawdwyr Rhufeinig.
• Wedi i Jerwsalem gael ei dinistrio yn 70 O.C. aeth llawer iawn o Iddewon y brifddinas i fyw i Tiberias. Daeth yn ganolfan iddyn nhw am dros dri chan mlynedd.
• Tua 150 O.C. ymlaen roedd Tiberias yn ganolfan i’r Sanhedrin (Cyngor yr Iddewon).. Roedd yno hefyd ysgolion rabinaidd enwog. Dyma lle gasglwyd Talmud Jerwsalem at ei gilydd ar ddechrau’r bumed ganrif.
• Yma hefyd cafodd y Masora ei ysgrifennu gan ysgolheigion Iddewig rhwng y 6ed a’r 12fed ganrif O.C.. Mae llawer yn credu fod y Masora wedi achub yr iaith Hebraeg. Yn wreiddiol doedd dim llafariaid mewn Hebraeg ysgrifenedig, dim ond cytseiniaid. Felly pan ddechreuodd yr Hebraeg farw fel iaith lafar, doedd neb yn gwybod pa lafariaid oedd angen eu hychwanegu wrth ddarllen y llawysgrifau, na lle i’w gosod. Mae’r Masora yn gasgliad o nodiadau gan ysgolheigion Hebraeg sy’n rhoi’r llafariaid yn y testun yr Hen Destament. • (gweler Ioan 6:23)
b. Llyn Tiberias
• Enw arall ar lyn Tiberias ydy Llyn Galilea neu Lyn Gennaseret.
(gweler Ioan 6:1; 21:1 hefyd ** LLYN GALILEA)