Troffimus

 

Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod yr Eglwys Fore. Roedd yn Gristion o Effesus. Mae’n debyg ei fod wedi mynd gyda Paul i Ewrop ar ôl yr helynt yn Effesus (Actau 19), ac yna wedi mynd yn ôl i Troas er mwyn mynd gyda Paul gyda chasgliad eglwysi Asia i dlodion Jerwsalem. Ar ôl cyrraedd Jerwsalem, cafodd ei weld gyda Paul gan bererinion Iddewig. Pan gafodd Paul ei weld yn y deml, neidiodd yr Iddewon i’r casgliad anghywir fod Paul wedi mynd â dyn oedd ddim yn Iddew i’r deml (Actau 21:27-29). Dyma arweiniodd at arestio Paul, ac yn y pen draw, at ei garcharu yn Rhufain. Yn ei ail lythyr at Timotheus mae Paul yn dweud ei fod wedi gadael Troffimus yn Miletus achos ei fod yn sâl.
(gweler Actau 20:4; 21:29; 2 Timotheus 4:20)