Tychicus

 

Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod yr Eglwys Fore. Cristion o Asia aeth gyda Paul i Jerwsalem (fel cynrychiolydd ei eglwys, ac yn rhan o grŵp oedd â chasgliad i helpu Cristnogion tlawd Jerwsalem) Mae’n amlwg fod gan Paul feddwl mawr o Tychicus, a’i fod ac yn gallu ymddiried ynddo. Mae’n cael ei anfon gan Paul ar ei ran at yr eglwys yn Colosa ac at yr eglwys yn Effesus, ac mae’n debyg mai ef aeth a llythyrau Paul at yr eglwysi hyn. Rydyn ni’n darllen yn ail lythyr Paul at Timotheus fod Tychicus yn cael ei anfon i Effesus i gymryd drosodd fel arweinydd pan oedd angen Timotheus mewn lle arall.
(gweler Actau 20:4; Colosiaid 4:7; Effesiaid 6:21; 2 Timotheus 4:12; Titus 3:12)