Zews

 

Y duw Iau, Zews i’r Groegiaid, Jupiter i’r Rhufeinwyr – brenin y duwiau oedd yn byw ar Fynydd Olympus. Mab ieuengaf Cronus a Rhea. Zews oedd duw’r tywydd, yn rheoli taranau, mellt a’r glaw. Mae’n cael ei ddarlunio yn aml fel petai ar fin taflu mellten i’r ddaear. Cafodd y gemau Olympaidd eu cynnal i’w anrhydeddu. Mae’n cael ei enwi yn y Testament Newydd, yn llyfr yr Actau oherwydd yr hyn wnaeth pobl Lystra, yn ystod taith genhadol gyntaf Paul a Barnabas. Ar ôl gweld y ddau apostol yn iacháu dyn cloff, mae’r bobl yn galw Barnabas yn Zews, a Paul yn Hermes ac yn eu trin nhw fel duwiau. Roedd teml i Zews yn Lystra, ac roedd traddodiad yn yr ardal fod y duw pwysig hwn wedi ymweld unwaith â Lystra, ac nad oedd neb wedi ei adnabod, ond hen ŵr a gwraig. Felly doedd pobl Lystra ddim am weld yr un peth yn digwydd eto!
(gweler Actau 14: 12-13)