1 Pedr
Pwy ydy’r awdur?
Pedr, y pysgotwr ddaeth yn ddisgybl i Iesu, ac yna yn apostol ac arweinydd yn yr Eglwys Fore. Cafodd Pedr ei gyflwyno i Iesu gan ei frawd Andreas (Ioan 1: 40). Cafodd y brodyr eu galw gan Iesu i adael y busnes pysgota yng Nghapernaum a’i ddilyn. Roedd Pedr yn gymeriad cryf, yn arweinydd a llefarydd ar ran y 12 disgybl, a hefyd, fo, Iago ac Ioan oedd y tri disgybl agosaf at Iesu. Pedr oedd y cyntaf i ddweud mai Iesu oedd y Meseia, ond pan oedd Iesu ar brawf dyma Pedr yn ei wadu dair gwaith. Roedd yn edifar wedyn, ac daeth Iesu ato ar ôl yr atgyfodiad i ddangos ei fod yn maddau iddo. Fel roedd Iesu wedi dweud (Math 16:3) daeth Pedr yn arweinydd yn yr eglwys, a fo oedd y cyntaf i bregethu’r efengyl (Actau 2). Dyn ni’n gwybod fod Pedr yn briod (Marc1:30) ac mai enw ei dad oedd Jona (Math 16:17). Roedd yn siarad gydag acen y Gogledd (Marc 14:70), a’i enw Hebraeg oedd Symeon (Simon). Ar ôl iddo gyffesu mai Iesu oedd y Meseia, dywedodd Iesu wrtho mai Pedr (Groeg, Petros) oedd o, ac y byddai’n adeiladu’r eglwys ar y graig (Groeg, petra) hon. Felly dechreuodd cael ei alw yn Pedr, neu’n Simon Pedr. Er mai Paul sy’n cael ei adnabod fel yr apostol aeth â’r efengyl at bobl oedd ddim yn Iddewon (cenedl-ddynion), Pedr oedd y cyntaf i wneud hyn mewn gwirionedd (Actau 10) a chafodd ei feirniadu am hynny. Cafodd cyfarfod ei gynnal yn Jerwsalem i drafod ar ba delerau y dylai Cristnogion oedd ddim yn Iddewon gael eu derbyn i’r eglwysi. Yn y cyfarfod hwn, Pedr oedd y cyntaf i ddweud mai ffydd sy’n cyfri, nid cadw’r Gyfraith Iddewig. Ar ôl marwolaeth Steffan mae’n anodd dilyn hanes Pedr. Cafodd ei garcharu, a’i ryddhau yn wyrthiol o garchar Jerwsalem. Mae Galatiaid 2:11 yn dangos ei fod wedi mynd i Antiochia, ac mae traddodiad yn ei gysylltu hefo Rhufain hefyd, a’i fod wedi cael ei groeshoelio a’i ben i lawr yn Rhufain yn ystod erledigaethau Nero tua 64 O.C.
Pryd?
Mae’n anodd rhoi dyddiad pendant i lyfrau’r Testament Newydd, ond mae rhai ysgolheigion yn awgrymu tua 63 O.C. fel dyddiad i’r llythyr hwn. Mean nhw hefyd yn credu bod Pedr wedi ei ysgrifennu o Rufain. Mae’r cyfarchiad ar ddiwedd y llythyr yn dweud bod Marc (Ioan Marc, awdur Efengyl Marc) hefo fo, a hefyd Silfanus (sy’n cael ei alw yn Silas yn llyfr yr Actau). Silfanus sydd yn ysgrifennu’r llythyr ar ran Pedr.
Pam?
Mae Pedr yn ysgrifennu’r llythyr at eglwysi mewn sawl talaith o’r Ymerodraeth Rufeinig yng ngwlad Twrci. Mae llawer o sôn am erledigaeth yn y llythyr ( 1:6; 3:13, 14) a dyn ni’n gallu dychmygu bod Pedr yn sylweddoli y byddai’r Cristnogion yn rhannau eraill yr ymerodraeth yn dioddef yr un math o erledigaeth cyn hir. Bwriad Pedr ydy cysuro’r Cristnogion a rhoi gobaith iddyn nhw, a’u hannog i sefyll yn gadarn dros y ffydd Gristnogol hyd yn oed os ydyn nhw’n dioddef. Mae’r llythyr yn llawn sialens. Wrth ei ddarllen dyn ni’n sylweddoli bod Pedr ddim wedi colli’r cariad gwreiddiol at Iesu. Mae ei frwdfrydedd dros yr efengyl yn fyw iawn. Mae rhai ysgolheigion yn gweld iaith ac arddull rhannau o’r llythyr yn debyg i areithiau Pedr yn yr Efengylau ac yn llyfr yr Actau.
Catrin Roberts