1 Timotheus
Pwy ydy’r awdur?
Paul yr apostol, gafodd dröedigaeth ddramatig ar y ffordd i Ddamascus (Actau 9). Treuliodd ei fywyd yn teithio er mwyn rhannu’r Efengyl. Cychwynnodd Paul eglwysi Cristnogol, ac mae rhai o’r llythyrau ysgrifennodd o at yr eglwysi hyn, ac at bobl fel Timotheus a Titus, yn rhan o’r Testament Newydd. (Os am wybod mwy am Paul, darllenwch “Pwy? Pryd? Pam?” Rhufeiniaid). Mae rhai yn amau ai Paul ydy awdur 1 Timotheus. Maen nhw’n gweld yr iaith yn wahanol iawn i lythyrau eraill Paul. Hefyd maen nhw’n credu fod y math o eglwys sy’n cael ei disgrifio yma yn perthyn i gyfnod mwy diweddar. Ond rhaid cofio bod Paul yn arfer defnyddio amanuensis (ysgrifennydd) ac mae’r llythyr yma yn darlunio perthynas mor agos rhwng yr awdur a Timotheus, mae’n anodd iawn credu fod rhywun arall wedi ei ysgrifennu.
Pryd?
Mae’n anodd iawn rhoi dyddiad pendant, ond mae rhai yn credu bod Paul wedi ysgrifennu’r llythyr yn fuan ar ôl y digwyddiadau ar ddiwedd llyfr yr Actau, lle mae Paul mewn carchar yn Rhufain yn disgwyl ei achos llys o flaen Cesar. Dyn ni ddim yn gwybod yn iawn beth ddigwyddodd i Paul wedyn. Mae ysgolheigion yn meddwl ei fod wedi cael ei ryddhau, ac wedi parhau gyda’i waith cenhadol, ac mai dyna pryd ysgrifennodd o’r llythyr hwn, tua 63-65 O.C.
Pam?
Mae’r llythyrau at Timotheus, a’r llythyr at Titus yn cael eu galw yn “llythyrau bugeiliol”, sef llythyrau i helpu’r bobl oedd yn arwain yr eglwysi ifanc i wneud eu gwaith. Dyn ifanc o Lystra (De Twrci heddiw) oedd Timotheus. Roedd ei dad yn Roegwr a’i fam yn Iddewes dda. Dysgodd ei fam yr Ysgrythurau Iddewig i Timotheus. Mae’n bosib ei fod wedi dod i gredu yn Iesu trwy bregethu Paul – mae’n dweud “rwyt ti wir fel mab i mi yn y ffydd” (1 Tim. 1:2). Penderfynodd Paul fynd â Timotheus ar ei deithiau cenhadol a daeth y dyn ifanc yn ffrind da iddo ac yn bartner gwaith ffyddlon. Dyma’r eglwys yn comisiynu Timotheus i’r gwaith ( 1 Tim 4:4), ac yn Actau 16:3 dyn ni’n dysgu ei fod o wedi derbyn enwaediad er mwyn cael gweithio gydag Iddewon. Aeth i efengylu hefo Paul yn Macedonia, Achaia, ac Effesus. Yna cafodd y gwaith o arwain eglwys Effesus. Yno roedd yn gyfrifol am arolygu’r Cristnogion lleol, a dewis a hyfforddi arweinwyr eglwysig newydd. Nid gwaith hawdd oedd hyn i berson ifanc fel Timotheus oedd yn gymeriad digon nerfus, ac yn dioddef o anhwylder ar y stumog (1 Tim 5:23).
Roedd Paul yn mynd yn hŷn. Roedd o eisiau pasio ei awdurdod fel apostol ymlaen i arweinwyr iau. Mae’r llythyrau bugeiliol yn sôn am
• rôl arweinydd eglwys
• sut i ddelio hefo problemau yn yr eglwysi
• ymddygiad personol arweinwyr
• sut i ddewis arweinwyr eraill
Mae’r llythyr yn dweud ei bod yn bwysig iawn canolbwyntio ar brif bwyntiau’r ffydd a dysgu’r gwir. Cofiwch fod rhai athrawon ffals wedi dechrau dysgu heresïau yn yr eglwysi erbyn hyn. Mae’n siwr fod Paul wedi dweud y pethau hyn wrth Timotheus ar lafar yn barod – ond byddai llythyr yn helpu’r arweinydd ifanc dihyder yma. Byddai’n gallu dangos y llythyr, neu ei ddarllen yn yr eglwys a dweud “Dyma mae Paul yn ei ddweud hefyd.”
Catrin Roberts