3 Ioan
Pwy ydy’r awdur?
Does dim enw ar ddechrau’r llythyr yn dweud pwy ydy’r awdur, ond mae llawer o ysgolhegion yn credu mai Ioan, mab Sebedeus, y pysgotwr ddaeth yn ddisgybl ac yna’r apostol i Iesu, ysgrifennodd y llythyr. Os am wybod mwy am Ioan, darllenwch “Pwy? Pryd? Pam?” Efengyl Ioan. Mae’r awdur yn ‘henadur’ mewn eglwys, ac mae traddodiad cynnar yn yr Eglwys Gristnogol fod Ioan wedi dod yn henadur yn eglwys Effesus. Dyma awdur llythyr cyntaf ac ail lythyr Ioan, ac Efengyl Ioan.
Pryd?
Mae’n anodd iawn rhoi dyddiad pendant i lyfrau’r Testament Newydd, ond dyn ni’n credu fod y llythyr wedi cael ei ysgrifennu rywbryd rhwng 90 a 100 O.C.
Pam?
Mae hwn yn llythyr personol gan Ioan at ddyn o’r enw Gaius. Dyn ni ddim yn gwybod pwy oedd Gaius – roedd yn enw cyffredin iawn yn y cyfnod hwn. Ond wrth ddarllen y llythyr dyn ni’n dysgu bod Gaius yn Gristion sydd yn byw’r efengyl mewn gair a gweithred, ac mae Ioan yn ei ganmol am hynny. Ond mae Ioan yn defnyddio’r llythyr i ddweud y drefn am arweinydd eglwys leol, sef dyn o’r enw Diotreffes. Mae hwn yn bychanu cymeriad Ioan. Mae wedi gwrthod gadael i’r athrawon teithiol sy’n cael eu hanfon gan Ioan i’r eglwys gael siarad yno. Felly mae o’n rhwystro’r gwaith cenhadol, ac yn mynd yn rhy fawr i’w sgidiau fel arweinydd yr eglwys. Mae awgrym fod Diotreffes heb ddangos neu ddarllen llythyr arall anfonodd Ioan i’r eglwys.
Mae trydydd person yn cael ei enwi yn y llythyr – Demetrius. Mae gan Ioan feddwl uchel ohono fo. Mae’n bosibl mai Demetrius oedd negesydd Ioan, yn mynd â’r llythyr at Gaius, achos doedd dim gwasanaeth post y dyddiau hynny!
Catrin Roberts