Efa

 

Efa oedd y ddynes gyntaf ar y ddaear. Cafodd ei chreu gan Dduw o un o asennau Adda, i fod yn wraig iddo. Hi oedd mam Cain, Abel a Seth. Cafodd ei defnyddio gan y sarff i demtio Adda i fwyta ffrwyth y goeden oedd wedi ei gwahardd iddo gan Dduw. Oherwydd hyn cafodd Efa ei chondemnio i ddioddef poen wrth eni plant, ac i fyw o dan reolaeth Adda. Ystyr Efa ydy “mam popeth byw”.
(gweler Genesis 3:20- 4:1; 2 Corinthiaid 11:3; 1 Timotheus 2:13)