Galatiaid

Pwy ydy’r awdur?
Paul o Darsus, ddaeth i gredu yn y Meseia atgyfodedig ar ôl clywed ei lais yn siarad hefo fo ar y ffordd i Ddamascus. (Am fwy o wybodaeth, edrychwch ar y “Pwy? Pryd? Pam?” Rhufeiniaid)

Pryd?
Mae’n anodd rhoi dyddiad pendant i lyfrau’r Testament Newydd. Mae rhai yn rhoi’r dyddiad 48 – 49 O.C. i’r llythyr hwn, ar ôl taith genhadol gyntaf Paul i Galatia, pryd sefydlodd Paul eglwysi yn Antioch, Iconium, Lystra a Derbe. Mae pobl eraill yn meddwl bod y llythyr yn ddiweddarach (rhywbryd rhwng 53 a 58 O.C.), ac wedi ei ysgrifennu at eglwysi yng Ngogledd Galatia, ond does dim sôn yn Llyfr yr Actau am gychwyn eglwysi yn yr ardal honno.

Pam?
Roedd rhai Cristnogion Iddewig yn nyddiau cynnar yr eglwys yn credu bod angen i bawb ddilyn traddodiadau ac arferion y ffydd Iddewig, ac ufuddhau i’r Gyfraith Iddewig. Er enghraifft, roedden nhw’n credu y dylai dynion dderbyn enwaediad. Roedd hwn yn bwnc allweddol bwysig gan mai pobl o genhedloedd eraill yn bennaf, nid Iddewon, oedd yn perthyn i’r eglwysi newydd gychwynnodd Paul yn Galatia. Doedd y dynion ddim wedi cael eu henwaedu, a doedden nhw ddim yn ufuddhau i fanion Cyfraith yr Iddewon. Roedd rhai Cristnogion Iddewig yn dweud bod angen iddyn nhw ddechrau gwneud hynny.
Ysgrifennodd Paul at yr eglwysi yn Galatia i bwysleisio mai trwy garedigrwydd hael Duw mae pobl yn cael eu hachub. Doedd Paul ddim yn credu bod yn rhaid i’r Cristnogion newydd oedd ddim yn Iddewon gadw defodau y Gyfraith Iddewig. Yn ei lythyr mae’n dweud mai ffydd yn Iesu sy’n bwysig, nid cadw at reolau a dilyn defodau. Ond dydy hynny ddim yn golygu bod Cristnogion yn gallu byw rhywsut rhywsut. Mae Paul yn dweud bod yn rhaid byw yn yr Ysbryd ac ufuddhau i Dduw.
Daeth yr holl fater hwn i fwcl yn Jerwsalem ychydig yn ddiweddarach (gw. Actau 15) pan gafodd Paul a Barnabas gyfle i ddisgrifio’r pethau mawr roedd Duw yn ei wneud ym mywydau pobl o genhedloedd eraill. Dyma’r arweinwyr yn Jerwsalem yn trafod a oedd hi’n deg disgwyl i bobl oedd ddim yn Iddewon orfod dilyn y Gyfraith Iddewig. Yn y diwedd penderfynodd y Cyngor mai’r unig beth pwysig oedd bod y Cristnogion newydd yn cadw draw o’r temlau ble byddai cig wedi ei aberthu i eilunod yn cael ei fwyta, a ble’r oedd anfoesoldeb rhywiol yn beth mor gyffredin.
Cafodd y llythyr at y Galatiaid ddylanwad mawr ar y diwygiwr, Martin Luther yn yr 16eg ganrif. Ar ôl iddo ddarllen a dod i ddeall y llythyr, sylweddolodd fod beth roedd yr Eglwys Gatholig yn ei ddysgu yn groes i’r Beibl, ac arweiniodd hynny at y Diwygiad Protestannaidd.

Catrin Roberts