Gamaliel
Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod yr Eglwys Fore. Mab i ddyn o’r enw Simon.
• Mae rhai yn meddwl ei fod yn ŵyr i Hilel, athro enwog yn y Gyfraith Iddewig a dyn eithriadol o ddylanwadol. Roedd dwy ysgol o feddwl ymhlith y Phariseaid – ysgol Hilel, yn cynrychioli pobl oedd â meddwl eitha rhyddfrydol am y Gyfraith, ac ysgol Shammai, oedd yn dilyn y Gyfraith yn gaeth iawn. Roedd Gamaliel yn Rabban (teitl pwysicach na Rabbi), ac roedd yn dilyn ysgol Hillel.
• Mae’r apostol Paul yn dweud ei fod wedi cael ei addysg gan Gamaliel (Actau 22:3).
• Does dim tystiolaeth fod Gamaliel wedi dod yn Gristion, ond pan ymddangosodd yr apostolion o flaen y llys yn Actau 5 roedd aelodau’r Cyngor Iddewig am eu lladd nhw am ddysgu yn enw Iesu. Ond siaradodd Gamaliel yn ddoeth a rhesymol, a dweud wrthyn nhw am adael llonydd i’r apostolion.
(gweler Actau 5:34; 22:3)