Habacuc
Pwy?
Wyddon ni ddim llawer am Habacuc, ond mae un peth yn sicr - roedd e’n ddyn llawn ffydd.
Pryd?
Mae’n debyg fod Habacuc yn cyhoeddi neges Duw tua 600 mlynedd cyn Crist (clicia yma i ddarllena’r adran ar y Proffwydi os wyt ti am ddysgu mwy).
Pam?
Er bod Habacuc yn credu yn Nuw, mae yna bethau sy’n ei boeni – er enghraifft pam bod pobl ddrwg y byd yn llwyddo heb gael cosb, ond bod llawer o bobl dda yn dioddef.
Mae dwy bennod gyntaf y llyfr yn cyflwyno deialog rhwng y Habacuc a Duw. Mae Habacuc yn siarad yn naturiol gyda Duw gan ofyn cwestiynau iddo – pam hyn, pam y llall. Mae’n derbyn ateb i’w gwestiynau – mae Duw’n paratoi i wneud rhywbeth am ddrygioni’r byd. Fe fydd yn cosbi pobl am eu drygioni.
Mae pennod 3 yn ddatganiad prydferth o ffydd ac mae’n debyg fod y bennod hon yn cael ei defnyddio gan Iddewon fel Salm i’w chanu’n gyhoeddus. Felly nid rhywbeth personol i Habacuc yn unig ydy’r profiadau hyn, ond mae Habacuc yn cynrychioli llais pobl dduwiol sy’n cael trafferth i ddeall ffyrdd Duw, ac sy’n dysgu bod yn rhaid trystio yng ngwaith a chynlluniau Duw.