Job
Pwy?
Wyddon ni ddim pwy ysgrifennodd y llyfr, ond roedd y person yn awdur galluog iawn. Mae rhan fwyaf o’r llyfr wedi ei ysgrifennu mewn barddoniaeth, ac mae’n darllen fel drama fawr, yn dweud hanes y prif gymeriad, Job. Dyma amlinelliad o’r stori:-
- Mae Job yn ddyn da iawn, ond mae’n wynebu pob math o helynt a dioddef – colli ei gyfoeth, ei deulu a’i iechyd.
- Dydy Job ddim yn deall pam bod Duw yn gadael i hyn ddigwydd iddo fe.
- Mae’r darllenydd yn cael gwybod fod Duw’n ceisio profi i Satan bod ffydd Job yn ffydd go iawn – dydy Job ddim yn credu jyst achos bod ei fywyd yn fywyd braf a chyfforddus.
- Mae 3 ffrind yn dod at Job i’w gysuro wrth iddo ddioddef, ac maen nhw hefyd yn trafod pam fod Job yn wynebu’r trafferthion hyn. Mae’r ffrindiau yn cysylltu dioddefaint Job gyda’i ddrygioni (pechod), ond mae Job yn gwrthod hynny.
- Mae cymeriad newydd, Elihu yn ymddangos ac yn gwneud nifer o anerchiadau – ond dydy e ddim yn gallu ateb y cwestiwn pam fod dyn da fel Job yn dioddef.
- Yn y diwedd mae Duw’n siarad gyda Job – ac mae hynny’n newid agwedd Job. Mae’n gweld mawredd Duw ac yn ymddiried ei fywyd yn llwyr iddo.
- Yn y diwedd mae Job yn profi llwyddiant a hapusrwydd eto. Mae’n cael teulu newydd ac yn dod yn berchennog mwy o anifeiliaid nag oedd ganddo i ddechrau.
Pryd?
Wyddon ni ddim pwy ydy awdur llyfr Job, felly dydyn ni ddim yn gallu dweud pryd cafodd y llyfr ei ysgrifennu.
Pam?
Mae’r llyfr yn delio hefo cwestiwn sydd wedi poeni pobl ar hyd y canrifoedd – os ydy Duw yn dda ac yn deg, pam fod e’n gadael i bobl ddiniwed a da ddioddef?
Does dim ateb hawdd i’r broblem hon yn ôl yr awdur. Yn y diwedd allwn ni ddim deall rhai pethau, maen nhw y tu hwnt i feddwl pobl, ond lle mae rheswm yn methu, mae gan ffydd ateb.
Yn y diwedd mae Job yn cael perthynas a chymdeithas gyda Duw, mae’n gweld ei fawredd ac yn clywed ei lais – ac mae hynny’n gwneud gwahaniaeth i’w fywyd. Mae’n dysgu ymddiried yn Nuw.
Yn ystod ei helyntion mae Job yn dweud:
"Nid creadur dynol fel fi ydy Duw, felly alla i ddim dweud,
‘Gad i ni fynd i gyfraith!’
O na fyddai canolwr rhyngon ni,
i osod ei law ar y naill a'r llall ohonon ni!
Rhywun i symud gwialen Duw oddi arna i
fel bod dim rhaid i mi ddychryn ac arswydo o'i flaen."
Mae’r Testament Newydd yn dweud wrthon ni fod rhywun wedi dod yn ganolwr rhwng pobl a Duw – Iesu Grist. Cafodd mab Duw ei eni fel person i’r byd, ac fe wnaeth e ddioddef yn ofnadwy er mwyn achub pawb sy’n barod i roi eu bywyd iddo. Does dim rhaid i ni ddychryn ac arswydo o flaen Duw os ydyn ni’n credu Iesu. Fe allwn ni droi at Iesu ac at Dduw pan dyn ni’n mynd trwy amser anodd mewn bywyd, achos mae Duw yn gwybod am boen a dioddef – achos fe wnaeth Iesu wynebu anawsterau a phoen yn ystod ei gyfnod ar y ddaear. Sylweddoli hyn wnaeth i emynydd o’r enw Ann Griffiths ysgrifennu,
"Mae’n ddyn i gydymdeimlo
â’th holl wendidau i gyd.
Mae’n Dduw i gario’r orsedd
ar ddiafol, cnawd a byd."