Jona
Pwy?
Dydyn ni ddim yn gwybod llawer am y proffwyd Jona (clicia yma i ddarllena’r Adran ar y Proffwydi os am ddysgu mwy). Roedd yn fab i ddyn o’r enw Amittai ac mae 2 Brenhinoedd 14.25 yn dweud ei fod yn dod o le o’r enw Gath-heffer. Ystyr yr enw Jona ydy Colomen. Cafodd Jona’r gwaith o fynd i Ninefe, prifddinas ymerodraeth Asyria, i rybuddio’r bobl yno bod Duw ar fin eu cosbi am eu drygioni.
Pryd?
Wyddon ni ddim pryd cafodd llyfr Jona ei ysgrifennu, ond mae arbenigwyr yn credu bod Jona yn byw tua chanol yr 8fed ganrif cyn Crist. Mae’r llyfr yn adrodd stori – beth ddigwyddodd i’r proffwyd ar yr un daith broffwydol arbennig yma i Ninefe.
Pam?
O ddarllen yr hanes, gwelwn fod Jona yn methu deall cynlluniau Duw ac mae’n ceisio osgoi mynd at bobl baganaidd Ninefe. Pam ddylai Duw Israel boeni am bobl sy ddim yn Iddewon? Ond mae neges Duw yn glir – mae e’n dangos tosturi at bobl y byd i gyd, nid at yr Iddewon yn unig. Mae’r un neges i’w gweld yn Actau pennod 10 ac 11. Mae Pedr yn cael ei anfon i rannu’r Efengyl gyda Cornelius (Rhufeiniwr), ac eglwys Antiochia yn dechrau rhannu’r Efengyl gyda phobl sy ddim yn Iddewon. Mae gweddi Jona (pennod 2) yn enghraifft wych o berson yn gwneud cyffes bendant o ffydd yn Nuw ac yn dweud pa mor ddiolchgar ydy e am gael ei achub.
Cyfeiriodd Iesu Grist at hanes Jona.
Yn Mathew 12.40 mae’n siarad am ei atgyfodiad: Fel y daeth Jona allan yn fyw o fol y pysgodyn mawr ar ôl tri diwrnod, felly y bydda i, Mab y Dyn, yn dod yn ôl yn fyw o berfedd y ddaear
Ac yn Mathew 12.41 mae’n disgrifio fel gwnaeth pobl Ninefe wrando ar Jona a throi at Dduw, ond roedd arbenigwyr y gyfraith a’r Phariseaid yn gwrthod gwrando ar neges Iesu: Bydd pobl Ninefe hefyd yn condemnio pobl y genhedlaeth yma, am eu bod nhw wedi newid eu ffyrdd ar ôl clywed pregethu Jona. Mae un mwy na Jona yma nawr!