Numeri 35:11
Roedd y trefi lloches (BCN - dinasoedd noddfa) yn ffordd o reoli dial yn y gymdeithas. Roedd yn ffordd o amddiffyn rhywun oedd wedi lladd person arall yn ddamweiniol (‘dynladdiad anfwriadol’). Byddai’r person yn cael achos llys teg i benderfynu os oedd y lladd yn ddamweiniol neu’n fwriadol. (Mewn rhai llwythau nomadig yn y cyfnod hwnnw, os oedd rhywun wedi lladd person arall gallai perthynas y sawl a laddwyd ddial drwy ladd y lladdwr neu aelod o’i deulu. Mae’r math yma o ddial yn dal i ddigwydd heddiw yn rhai rhannau o’r byd.)
0
tudalen blaen:
0