Mae Esra yn dechrau lle roedd 2 Cronicl yn darfod, sef gyda Cyrus, brenin Persia, yn helpu’r Iddewon i fynd yn ôl i Jerwsalem. Y cyfnod ydy tua 530 C.C. hyd tua 450 C.C. Tua hanner canrif ar ôl i fyddin Babilon ddinistrio Jerwsalem a chaethgludo ei phobl, Persia oedd y grym rhyngwladol mawr. Mae Cyrus yn gadael i rai o’r Iddewon oedd wedi eu caethgludo fynd yn ôl i Jerwsalem i ailadeiladu’r deml yno. Mae tua 42,000 o bobl yn mynd. Tua 70 mlynedd yn ddiweddarach roedd Esra ei hun yn ran o grŵp llai o bobl aeth yn ôl. Erbyn hynny roedd y bobl wedi pellhau oddi wrth Dduw eto, ac mae Esra yn eu dysgu nhw beth oedd Cyfraith Dduw yn ei ddweud.
ESRA 1
Cyrus yn gadael i'r caethion fynd yn ôl
(2 Cronicl 36:22-23)
1 Llai na blwyddyn ar ôl i Cyrus ddod yn frenin Persia, Ref dyma'r ARGLWYDD yn gwneud beth wnaeth e addo drwy Jeremeia. Ref Dyma fe'n ysgogi Cyrus i anfon datganiad allan drwy'r deyrnas i gyd. Dyma'r datganiad: 2 “Dyma mae Cyrus, brenin Persia yn ei ddweud. ‘Mae'r ARGLWYDD, Duw'r nefoedd, wedi rhoi teyrnasoedd y byd i gyd i mi. Ac mae e wedi gorchymyn i mi adeiladu teml iddo yn Jerwsalem yn Jwda. 3 Os ydych chi'n perthyn i'w bobl cewch fynd yn ôl i Jerwsalem i adeiladu teml yno i'r ARGLWYDD, Duw Israel – sef y duw sydd yn Jerwsalem. A Duw fyddo gyda chi! 4 Dylai pawb arall, sy'n aros lle rydych chi, helpu'r rhai sy'n mynd yn ôl, drwy roi arian ac aur, cyfarpar ac anifeiliaid iddyn nhw. Hefyd offrymau gwirfoddol ar gyfer teml Dduw yn Jerwsalem.’”Paratoi i ddod yn ôl o Babilon
5 Felly dyma arweinwyr llwythau Jwda a Benjamin a'r offeiriaid a'r Lefiaid yn paratoi i fynd yn ôl – pawb oedd wedi'u hysbrydoli gan Dduw i fynd i adeiladu teml yr ARGLWYDD yn Jerwsalem. 6 Ac roedd eu cymdogion i gyd yn eu helpu nhw, drwy roi llestri o arian ac aur iddyn nhw, cyfarpar, anifeiliaid, a lot fawr o anrhegion drud eraill, heb sôn am yr offrymau gwirfoddol. 7 Yna dyma'r Brenin Cyrus yn dod â'r holl lestri oedd Nebwchadnesar Ref wedi'u cymryd o deml yr ARGLWYDD yn Jerwsalem i'w gosod yn nheml ei dduw ei hun. 8 Rhoddodd nhw i Mithredath, ei drysorydd, a'i gael i gyfri'r cwbl a'u cyflwyno i Sheshbatsar, pennaeth Jwda, 9-10 Dyma'r rhestr o eitemau:- – 30 dysgl aur
- – 1,000 o ddysglau arian
- – 29 eitem arall o arian
- – 30 powlen aur
- – 410 o bowlenni arian gwahanol
- – 1,000 o lestri eraill