Roedd Eseia yn proffwydo o tua 740 i 700 C.C. Roedd yn amlwg yn dod o deulu dylanwadol, gan ei fod yn mynd yn ôl ac ymlaen i balas y brenin yn Jerwsalem. Cafodd ei alw gan Dduw i fod yn broffwyd mewn gweledigaeth ryfeddol pan oedd yn y deml (Eseia 6). Roedd yn cyhoeddi barn Duw ar Jerwsalem a Jwda am eu pechod, a daeth ei broffwydoliaethau yn wir ganrif yn ddiweddarach pan wnaeth byddin Babilon goncro’r wlad a dinistrio Jerwsalem. Ond mae yma hefyd broffwydoliaethau rhyfeddol o obaith. Mae rhai pobl yn galw Eseia “y bumed efengyl” gan fod rhai adrannau o’r broffwydoliaeth yn amlwg wedi eu cyflawni yng ngenedigaeth, bywyd a marwolaeth Iesu saith canrif yn ddiweddarach. Mae rhan olaf y llyfr yn broffwydoliaethau am Dduw yn adfer Israel, yn achub ei bobl, ac yn sefydlu teyrnas dragwyddol.
ESEIA 1
1 Gweledigaeth Eseia fab Amos. (Dyma welodd e am Jwda a Jerwsalem yn ystod y blynyddoedd pan oedd Wseia, Jotham, Ahas, a Heseceia yn frenhinoedd Jwda.)Croes Ref
Gwlad euog
2 Gwranda, nefoedd! Clyw, ddaear!
Mae'r
ARGLWYDD yn dweud:“Dw i wedi magu plant a gofalu amdanyn nhw –
ond maen nhw wedi gwrthryfela yn fy erbyn i.
3 Mae ych yn nabod ei berchennog
ac asyn yn gwybod lle mae cafn bwydo ei feistr:
ond dydy Israel ddim yn fy nabod i;
dydy fy mhobl i'n cymryd dim sylw!”
4 O! druan ohonot ti'r wlad sy'n pechu!
Pobl sy'n llawn drygioni!
Nythaid o rai sy'n gwneud drwg!
Plant pwdr!
Maen nhw wedi troi cefn ar yr
ARGLWYDDa dirmygu Un Sanctaidd Israel;
maen nhw wedi pellhau oddi wrtho.
5 Pam dych chi'n dal ati i wrthryfela?
Ydych chi eisiau cael eich curo eto?
Mae briwiau ar bob pen
a'r corff yn hollol wan.
o'r corun i'r sawdl:
dim ond clwyfau a chleisiau,
a briwiau agored –
heb eu gwella na'u rhwymo,
a heb olew i'w hesmwytho.
7 Mae eich gwlad fel anialwch,
a'ch dinasoedd wedi'u llosgi'n ulw.
Mae dieithriaid yn bwyta eich cnydau
o flaen eich llygaid –
anialwch wedi'i ddinistrio gan estroniaid!
8 Dim ond Seion hardd sydd ar ôl –
fel caban yng nghanol gwinllan,
neu gwt mewn gardd lysiau;
fel dinas yn cael ei gwarchae.
ARGLWYDD hollbweruswedi gadael i rai pobl fyw,
bydden ni wedi'n dinistrio fel Sodom,
neu wedi diflannu'n llwyr fel Gomorra. Ref
ARGLWYDD,arweinwyr Sodom!
Gwrandwch ar beth mae Duw'n ei ddysgu i chi,
bobl Gomorra!
11 “Beth ydy pwynt eich holl aberthau chi?”Croes
meddai'r
ARGLWYDD.“Dw i wedi cael llond bol o hyrddod yn offrymau i'w llosgi,
o fraster anifeiliaid a gwaed teirw.
Dw i ddim eisiau'ch ŵyn a'ch bychod geifr chi.
12 Dych chi'n ymddangos o'm blaen i –
ond pwy ofynnodd i chi ddod
i stompio drwy'r deml?
13 Stopiwch ddod â'ch offrymau diystyr!
Mae'r arogldarth yn troi arna i!
Dych chi'n dathlu gŵyl y lleuad newydd a'r Sabothau,
ac yn cynnal cyfarfodydd eraill,
Ond alla i ddim diodde'r drygioni
sy'n mynd gyda'ch dathliadau crefyddol chi.
14 Dw i'n casáu'r lleuadau newydd
a'ch gwyliau eraill chi.
Maen nhw'n faich arna i;
alla i mo'u diodde nhw.
15 Pan fyddwch chi'n codi'ch dwylo i weddïo,
bydda i'n edrych i ffwrdd.
Gallwch chi weddïo faint fynnoch chi,
ond fydda i ddim yn gwrando.
Mae gwaed ar eich dwylo chi!
Ewch â'r pethau drwg dych chi'n eu gwneud
allan o'm golwg i!
Stopiwch wneud drwg;
Brwydrwch dros gyfiawnder,
o blaid y rhai sy'n cael eu gorthrymu.
Cefnogwch hawliau plant amddifad,
a dadlau dros achos y weddw.
18 Dewch, gadewch i ni ddeall ein gilydd,”
—meddai'r
ARGLWYDD.“Os ydy'ch pechodau chi'n goch llachar,
gallan nhw droi'n wyn fel yr eira;
os ydyn nhw'n goch tywyll,
gallan nhw fod yn wyn fel gwlân.
19 Os dych chi'n fodlon gwrando a gwneud be dw i'n ddweud,
cewch fwyta cynnyrch da'r tir;
20 ond os byddwch chi'n ystyfnig ac yn gwrthod gwrando,
byddwch chi'n cael eich difa â'r cleddyf,”
—mae'r
ARGLWYDD wedi dweud.Y ddinas ddrwg
21 Ond o! Mae Seion wedi troi'n butain.
Roedd hi'n ddinas ffyddlon,
yn llawn o bobl yn gwneud beth oedd yn iawn.
Cyfiawnder oedd yn arfer byw ynddi –
ond bellach llofruddion.
22 Mae dy arian wedi'i droi'n amhuredd;
mae dy win wedi'i gymysgu â dŵr!
23 Mae dy arweinwyr wedi gwrthryfela,
ac yn ffrindiau i ladron;
maen nhw i gyd yn hoffi breib,
ac yn chwilio am wobr.
Wnân nhw ddim amddiffyn plentyn amddifad
na gwrando ar achos y weddw.
24 Felly, dyma mae'r Meistr yn ei ddweud
(yr
ARGLWYDD hollbwerus),Arwr Israel –
“O! bydda i'n dangos fy llid i'r rhai sy'n fy erbyn!
Bydda i'n dial ar fy ngelynion!
ac yn symud dy amhuredd â thoddydd.
Bydda i'n cael gwared â'r slag i gyd!
26 Bydda i'n rhoi barnwyr gonest i ti fel o'r blaen,
a chynghorwyr doeth, fel roedden nhw ers talwm.
Wedyn byddi di'n cael dy alw
‛Y Ddinas Gyfiawn‛, ‛Tref Ffyddlon‛.”
27 Bydd Seion yn cael ei gollwng yn rhydd pan ddaw'r dyfarniad;
a'r rhai sy'n troi'n ôl yn cael cyfiawnder.
28 Ond bydd y rhai sydd wedi gwrthryfela a phechu yn cael eu sathru;
bydd hi wedi darfod ar y rhai sydd wedi troi cefn ar yr
ARGLWYDD.29 Bydd gynnoch chi gywilydd o'r coed derw cysegredig
roeddech chi mor hoff ohonyn nhw.
Byddwch chi wedi drysu o achos
y gerddi paganaidd Ref roeddech wedi'u dewis.
â'i dail wedi gwywo,
neu fel gardd sydd heb ddŵr.
31 Bydd y rhai cryf fel fflwff,
a'u gwaith fel gwreichionen.
Bydd y ddau yn llosgi gyda'i gilydd,
a neb yn gallu diffodd y tân!