Mae llyfr y Barnwyr yn adrodd rhai hanesion am bethau ddigwyddodd yn ystod y ddwy neu dair canrif ar ôl i Josua farw. Mae pobl Israel yn colli’r awydd i frwydro a chael gwared â’r paganiaid yn eu plith. Roedden nhw’n diystyru Duw a plesio eu hunain. Mae’r un peth yn digwydd dro ar ôl tro – mae’r bobl yn anufudd, Duw yn caniatáu i bobloedd eraill eu concro a’u camdrin nhw, yna (pan mae’r bobl yn galw ar Dduw am help) mae e’n codi ‘arwr’ i’w hachub nhw a’u rhyddhau nhw. Ond mae llyfr y Barnwyr yn onest iawn ynglŷn â gwendidau’r ‘arwyr’ yma hefyd, ac mae’r llyfr yn cynnwys rhai o’r hanesion mwya gwrthun yn y Beibl. Er hynny, tu ôl i’r hanesion yma gwelwn amynedd, cariad a maddeuant rhyfeddol Duw.
BARNWYR 1
Llwythau Israel yn ymladd y Canaaneaid
Llwythau Jwda a Simeon yn dal Adoni-besec
1 Ar ôl i Josua farw, gofynnodd pobl Israel i'r ARGLWYDD, “Pa lwyth ddylai arwain yr ymosodiad ar y Canaaneaid?” 2 A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Llwyth Jwda fydd yn arwain. A dw i'n mynd i roi'r tir iddyn nhw.” 3 Dwedodd arweinwyr llwyth Jwda wrth arweinwyr llwyth Simeon, “Dewch i'n helpu ni i ymladd y Canaaneaid sy'n byw ar y tir sydd wedi'i roi i ni. Gwnawn ni eich helpu chi wedyn.” Felly dyma'r dynion o lwyth Simeon yn mynd gyda nhw. 4 Dyma lwyth Jwda yn ymosod, a gwnaeth yr ARGLWYDD iddyn nhw drechu'r Canaaneaid a'r Peresiaid. Cafodd deg mil o filwyr y gelyn eu lladd yn Besec. 5 Yn ystod y frwydr, dyma nhw'n dod o hyd i Adoni-besec, y brenin. 6 Ceisiodd hwnnw ddianc, ond llwyddon nhw i'w ddal. A dyma nhw'n torri bodiau ei ddwylo a'i draed i ffwrdd. 7 “Dw i wedi torri bodiau dwylo a thraed saith deg o frenhinoedd,” meddai Adoni-besec. “Roedden nhw i gyd yn gorfod casglu briwsion dan fy mwrdd. A nawr mae Duw wedi talu'n ôl i mi am beth wnes i iddyn nhw.” Aethon nhw ag e i Jerwsalem, lle buodd e farw. 8 Roedd byddin Jwda wedi ymosod ar Jerwsalem, ei dal, lladd ei phobl, a llosgi'r ddinas yn llwyr.Llwyth Jwda yn concro Hebron
9 Nesaf, dyma fyddin Jwda yn mynd i ymosod ar y Canaaneaid oedd yn byw yn y bryniau, y Negef i'r de, a'r iseldir yn y gorllewin. 10 Dyma nhw'n ymosod ar y Canaaneaid oedd yn byw yn Hebron (oedd yn arfer cael ei galw yn Ciriath-arba Ref ), a lladd dynion Sheshai, Achiman a Talmai.Othniel yn concro Debir
(Josua 15:13-19)
11 Wedyn dyma nhw'n ymosod ar y bobl oedd yn byw yn Debir (oedd yn arfer cael ei galw yn Ciriath-seffer). 12 Roedd Caleb wedi dweud, “Bydd pwy bynnag sy'n ymosod ar dref Ciriath-seffer ac yn ei choncro yn cael priodi fy merch Achsa.” 13 Othniel, mab Cenas (brawd iau Caleb) wnaeth goncro'r dref, a rhoddodd Caleb ei ferch, Achsa, yn wraig iddo. 14 Pan briododd hi Othniel, dyma hi'n ei berswadio i adael iddi ofyn i'w thad am fwy o dir. Wrth iddi ddod i lawr oddi ar gefn ei hasyn, gofynnodd ei thad Caleb iddi, “Beth sy'n bod?” 15 A dyma hi'n ateb, “Dw i eisiau gofyn am rodd arall gen ti. Rwyt ti wedi rhoi tir i mi yn y Negef, ond wnei di roi ffynhonnau dŵr i mi hefyd?” A dyma Caleb yn rhoi'r ffynhonnau uchaf a'r ffynhonnau isaf iddi.