1 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Jona, fab Amittai,Croes2 “Dos i ddinas fawr Ninefe, Ref ar unwaith! Dw i eisiau i ti gyhoeddi barn ar y bobl yno, achos dw i wedi gweld yr holl bethau drwg maen nhw'n wneud.”
3 Ond dyma Jona'n ffoi i'r cyfeiriad arall, i Spaen. Roedd eisiau dianc oddi wrth yr ARGLWYDD. Aeth i lawr i borthladd Jopa, a dod o hyd i long oedd ar fin hwylio i Tarshish (yn Spaen). Ar ôl talu am ei docyn aeth gyda nhw ar y cwch a hwylio i ffwrdd, er mwyn dianc oddi wrth yr ARGLWYDD.
4 Ond dyma'r ARGLWYDD yn gwneud i wynt cryf chwythu ar y môr. Roedd y storm mor wyllt nes bod y llong mewn perygl o gael ei dryllio.
5 Roedd criw y llong wedi dychryn am eu bywydau. Dyma pob un yn gweiddi ar ei dduw am help. A dyma nhw'n dechrau taflu'r cargo i'r môr, er mwyn gwneud y llong yn ysgafnach. Ond roedd Jona'n cysgu'n drwm drwy'r cwbl! Roedd e wedi mynd i lawr i'r howld i orwedd i lawr, ac wedi syrthio i gysgu.
6 Dyma'r capten yn dod ar ei draws, a'i ddeffro. “Beth wyt ti'n meddwl wyt ti'n wneud yn cysgu yma!” meddai. “Côd, a galw ar dy dduw! Falle y bydd e'n ein helpu ni, a'n cadw ni rhag boddi.”
7 Dyma griw'r llong yn dod at ei gilydd, a dweud, “Gadewch i ni ofyn i'r duwiau ddangos i ni Ref pwy sydd ar fai am y storm ofnadwy yma.” Felly dyma nhw'n taflu coelbren, a darganfod mai Jona oedd e.
8 Dyma nhw'n gofyn i Jona, “Dywed, pam mae'r drychineb yma wedi digwydd? Beth ydy dy waith di? O ble wyt ti'n dod? O ba wlad? Pa genedl wyt ti'n perthyn iddi?”
9 A dyma Jona'n ateb, “Hebrëwr ydw i. Dw i'n addoli'r ARGLWYDD, Duw y nefoedd. Fe ydy'r Duw sydd wedi creu y môr a'r tir.”
10 Pan glywon nhw hyn roedd y dynion wedi dychryn fwy fyth. “Beth wyt ti wedi'i wneud o'i le?” medden nhw. (Roedden nhw'n gwybod ei fod e'n ceisio dianc oddi wrth yr ARGLWYDD, am ei fod e wedi dweud hynny wrthyn nhw'n gynharach.)
11 Roedd y storm yn mynd o ddrwg i waeth. A dyma'r morwyr yn gofyn i Jona, “Beth wnawn ni hefo ti? Oes rhywbeth allwn ni wneud i dawelu'r storm yma?”
12 Dyma fe'n ateb, “Taflwch fi i'r môr a bydd y storm yn tawelu. Arna i mae'r bai eich bod chi yn y storm ofnadwy yma.”
13 Yn lle gwneud hynny dyma'r morwyr yn ceisio rhwyfo'n galed i gyrraedd y tir. Ond methu wnaethon nhw; roedd y storm yn dal i fynd o ddrwg i waeth.
14 Felly dyma nhw'n gweddïo ar yr ARGLWYDD, “O, plîs ARGLWYDD, paid gadael i ni farw o achos y dyn yma. Paid cosbi ni am wneud hyn iddo os ydy e'n ddieuog. Ti sydd wedi achosi hyn i gyd i ddigwydd.”
15 Yna dyma nhw'n gafael yn Jona a'i daflu i'r môr, a dyma'r storm yn tawelu.
16 Roedd hyn wedi gwneud i'r morwyr ofni'r ARGLWYDD go iawn, a dyma nhw'n addo ar lw y bydden nhw'n offrymu aberthau iddo.
17 Dyma'r ARGLWYDD yn anfon pysgodyn mawr i lyncu Jona. Roedd Jona ym mol y pysgodyn am dri diwrnod a thair nos.
Roedd Jona yn proffwydo yn ystod teyrnasiad Jeroboam II, brenin Israel (sef rywbryd rhwng 793 a 753 C.C.) Mae’n adrodd hanes y proffwyd oedd wedi ei alw gan Dduw i rybuddio dinas Ninefe (prifddinas Assyria) fod Duw yn mynd i’w dinistio am eu drygioni. Doedd gan Jona ddim eisiau eu rhybuddio nhw (am mai gelynion Israel oedden nhw), ac mae’n ceisio dianc, ac yn cael ei hun ym mol pysgodyn anferth am dri diwrnod. Ar ôl i Dduw ateb ei weddi a’i achub o fol y pysgodyn, mae’n mynd i Ninefe, ond wedyn yn pwdu am fod y bobl wedi credu ei neges ac edifarhau am eu drygioni.
Mae’r stori yn cloi gyda Duw yn dweud fod ei ofal yn cynnwys paganiaid Ninefe a hyd yn oed yr anifeiliaid yno.
Pwy? Pryd? Pam?
Pwy?
Dydyn ni ddim yn gwybod llawer am y proffwyd Jona (clicia yma i ddarllena’r Adran ar y Proffwydi os am ddysgu mwy). Roedd yn fab i ddyn o’r enw Amittai ac mae 2 Brenhinoedd 14.25 yn dweud ei fod yn dod o le o’r enw Gath-heffer. Ystyr yr enw Jona ydy Colomen. Cafodd Jona’r gwaith o fynd i Ninefe, prifddinas ymerodraeth Asyria, i rybuddio’r bobl yno bod Duw ar fin eu cosbi am eu drygioni.