Cymorth - Adnoddau
Adnoddau
Mae yna ddwy adran Adnoddau: Eglwysi ac Ysgolion
Adnoddau i Eglwysi
- Yma mae dewis eang o adnoddau. Wrth glicio ar un o’r dewisiadau e.e. Straeon i Blant – fe gewch restr o straeon sy’n addas ar gyfer plant, wedi eu trefnu fesul llyfr Beiblaidd.
- Os dych chi’n chwilio am astudiaethau neu myfyrdodau chwiliwch yn ôl y llyfr e.e. os ydych am fwy o wybodaeth am efengyl Mathew, cliciwch ar Mathew ac cewch ddewis o adnoddau perthnasol.
- Os ydych eisiau adnodd sy’n gysylltiedig ag adnod neu stori benodol o’r Beibl, ewch i’r bennod yn Darllen y Beibl ac fe welwch focs yn dweud Adnoddau sy’n berthnasol i’r bennod hon. Dilynwch y dolenni o’r fan honno i’r adran adnoddau.
Gallwch hefyd ddefnyddio’r blwch chwilio i ddod o hyd i adnodd berthnasol.
Adnoddau i Ysgolion
- Yma eto, mae dewis eang o adnoddau. Wrth glicio ar un o’r dewisiadau e.e. Gwasanaethau Cynradd – fe gewch ddewis o wasanaethau boreol sy’n addas ar gyfer plant. Mae nifer ohonyn yn aml-gyfryngol e.e. hanes y Nadolig a’r Pasg.
- Os ydych eisiau adnodd sy’n gysylltiedig ag adnod neu stori benodol o’r Beibl, ewch i’r bennod yn Darllen y Beibl ac fe welwch focs yn dweud Adnoddau sy’n berthnasol i’r bennod hon. Dilynwch y dolenni o’r fan honno i’r adran adnoddau.
- Yn yr Adran i Eglwysi mae yna Straeon, Chwileiriau a Chwisiau i Blant sy’n aml- gyfryngol, a gallen nhw hefyd fod yn ddefnyddiol mewn sefyllfa ysgol.
Cofiwch fod croeso i chi gysylltu â ni yn uniongyrchol i holi am adnodd neu i ddweud beth hoffech chi weld ar y wefan: swyddogadnoddau@beibl.net
Yn ôl i Cymorth