Cymorth - Cwestiynau Cyffredin
C. Sut mae dechrau darllen beibl.net?
A. Ar y dudalen flaen, ewch i Darllen beibl.net neu cliciwch ar y Beibl ar y chwith. Dewiswch y llyfr ydych chi am ei ddarllen drwy glicio ar enw’r llyfr. Yna dewiswch y bennod ydych chi am ei darllen.
C. Sut mae symud i ddarllen llyfr arall?
A. Os ydych yn darllen un llyfr, ac eisiau mynd i lyfr arall, agorwch y sgrôl sy’n rhestru’r llyfrau ar dop y dudalen. Dewiswch y llyfr newydd drwy glicio ar enw’r llyfr. Yna dewiswich y bennod ydych chi am ei darllen.
C. Sut mae chwilio am air neu gymal yn beibl.net?
A. Gallwch ddod o hyd i unrhyw air neu gymal sydd yn beibl.net!
I ddod o hyd i air, teipiwch y gair yn y blwch ‘chwilio’ ar dop y dudalen ac yna clicio ar chwilio. Os ydych eisiau chwilio am gyfuniad o eiriau, neu gymal arbennig, cliciwch ar chwilio manwl a dilyn y cyfarwyddiadau yno.
Gallwch dicio’r blwch i ofyn i’r chwiliad gynnwys ffurfiau sydd wedi treiglo a ffurfiau gwrywaidd a benywaidd gair.
Gallwch hefyd ddewis pa lyfrau i chwilio trwyddynt.
C. Beth ydy’r ‘Nodiadau’ ar ochr dde y ddalen?
A. Mae’r ‘Nodiadau’ yn rhoi crynodeb o beth sydd yn yr adran arbennig yna o’r llyfr ydych yn ei ddarllen. Cliciwch ar Nodiadau ar ochr dde’r sgrîn, ac yna clicio ar yr adran ydych eisiau darllen amdani. Gallwch fynd yn ôl i’r bennod agored drwy glicio ar Yn ôl i’r bennod
C. Beth ydy’r ‘Sylwadau’ ar ochr dde y ddalen?
A. Mae’r ‘Sylwadau’ yn rhannu gwybodaeth am gefndir rhywbeth sydd yn yr adnod, neu yn esbonio pam mae beibl.net yn ei chyfieithu fel y mae. Cliciwch ar Sylwadau ar ochr dde’r sgrîn, ac yna clicio ar yr adnod ydych eisiau darllen amdani. Gallwch fynd yn ôl i’r bennod agored drwy glicio ar yn ôl I’r bennod
C. Beth ydy’r croesau bach a’r seren yn y testun beiblaidd?
A. Mae’r croesau bach yn rhoi croesgyfeiriadau neu yn dweud o ble mae unrhyw ddyfyniad sy’n y Testament Newydd yn dod (Mae’r mwyafrif yn dod o’r Hen Destament, ond mae un neu ddau yn dod o ffynonellau eraill.)
Mae’r seren yn rhoi gwybodaeth bellach mewn troednodyn.
Drwy osod y cyrchwr ar groes neu seren, mae blwch gyda’r wybodaeth berthnasol ynddo yn dod i’r golwg.
C. Beth ydy ‘Pwy? Pryd? Pam?’
A. Mae ‘Pwy? Pryd? Pam?’ yn rhannu peth o gefndir pob llyfr – Pwy ydy’r awdur? Pryd cafodd y llyfr ei ysgrifennu? a Pam cafodd ei ysgrifennu? (beth ydy’r prif themâu ynddo)
C. Beth ydy ‘Fy Meibl.net’?
A. Eich cynllun darllen personol chi! Gallwch gofrestru i dderbyn adnod y dydd drwy e-bost, dilyn un o nifer o gynlluniau darllen, derbyn Astudiaeth Feiblaidd neu dderbyn gwybodaeth am adnoddau newydd sydd ar www.beibl.net.
Mae gennych hefyd eich llyfr nodiadau eich hunain. Gallwch wneud nodyn ar unrhyw bennod drwy glicio ar Nodyn Newydd, rhoi teitl i'r nodyn yn y blwch priodol, ei ysgrifennu yn y golofn ar y chwith ac yna ei gadw. Gallwch ysgrifennu faint bynnag o nodiadau ac y mynnwch. Gallwch ddileu neu olygu unrhyw nodyn unrhyw bryd.
C. Faint mae ‘Fy Meibl.net’ yn ei gostio?
A. Dim! Mae’n wasanaeth sy’n rhad ac am ddim i chi!
C. Beth os dw i’n anghofio fy nghyfrinair i fymeibl.net?
A. Os ydych wedi anghofio eich cyfrinair, ewch i http://www.beibl.net/defnyddiwr/cyfrinair, a dilyn y cyfarwyddiadau.
C. Sut fydda i’n gwybod beth i’w ddarllen bob dydd?
A. Byddwch yn derbyn e-bost dyddiol gyda’r darlleniad am y diwrnod hwnnw.
C. Beth ydy’r ‘Llyfr Nodiadau’?
A. Gallwch gadw eich nodiadau personol eich hun ar Fy Meibl.net. Fydd neb arall yn gallu edrych ar eich Llyfr Nodiadau chi, gan ei fod wedi ei ddiogelu gan eich cyfrinair personol.
C. Beth ydy’r ‘Adnoddau’?
A. Mae ‘Adnoddau’ i Ysgolion ac i Eglwysi ar Wefan beibl.net.
- I Ysgolion ceir Gwersi, Gwasanaethau (ar gyfer Addoliad Boreol), a Sgetsys. Mae pob Gwers a Gwasanaeth yn dynodi ar gyfer pa Gyfnod Allweddol maen briodol.
- I Eglwysi ceir Myfyrdodau, Astudiaethau, Sgetsys a Gwasanaethau
C. Sut mae agor yr adnoddau amrywiol?
A. Ewch i Adnoddau a chlicio ar naill ai Ysgolion neu Eglwysi. Yna dewiswch adran, drwy glicio ar yr adran honno. Bydd rhestr o adnoddau yn ymddangos. Cliciwch ar yr adnodd ydych chi am ei agor. Bydd blwch yn ymddangos yn rhoi’r dewis i chi agor neu gadw’r ffeil.
C. Oes hawlfraint ar beibl.net a’r adnoddau eraill sydd ar y Wefan?
A. Oes. Mae manylion yr hawlfraint i’w gweld os cliciwch ar Am beibl.net sydd ar waelod pob tudalen.
C. Ga i newid y ffurfiau iaith yn beibl.net i siwtio’r ardal dw i’n byw ynddi?
A. Gallwch. Ond ni ddylid gwneud dim sy’n newid yr ystyr. Cliciwch ar Am beibl.net sydd ar waelod pob tudalen. Dan y pennawd Beth ydy beibl.net? mae annogaeth i chi ynganu’r ffurfiau llafar yn y ffordd sy fwya naturiol i’ch ardal chi.
Yn ôl i Cymorth