Effesiaid 6
Pennod 6
Plant a rhieni
1 Dylech chi'r plant sy'n perthyn i'r Arglwydd fod yn ufudd i'ch rhieni, am mai dyna'r peth iawn i'w wneud. 2 Y gorchymyn cyntaf sydd ag addewid ynghlwm wrtho ydy: Gofala am dy dad a dy fam, 3 a bydd pethau'n mynd yn dda i ti, a chei fyw'n hir. Croes 4 Chi'r tadau, peidiwch trin eich plant mewn ffordd sy'n eu gwylltio nhw. Dylech eu magu a'u dysgu nhw i wneud beth mae'r Arglwydd yn ei ddweud.
Caethweision a meistri
5 Chi sy'n gaethweision, byddwch yn gwbl ufudd i'ch meistri daearol, a dangos parch go iawn atyn nhw. Gweithiwch yn galed, yn union fel petaech chi'n gweithio i'r Meseia ei hun — 6 nid dim ond er mwyn ennill ffafr y meistr pan mae'n eich gwylio chi. Fel caethweision y Meseia, ewch ati o ddifri i wneud beth mae Duw am i chi ei wneud. 7 Gweithiwch eich gorau glas, fel petaech yn gweithio i'r Arglwydd ei hun, dim i bobl. 8 Cofiwch mai'r Arglwydd fydd yn gwobrwyo pawb am y daioni mae'n ei wneud — caethwas neu beidio. 9 A chi'r meistri yr un fath, dylech drin eich caethweision yn deg. Peidiwch eu bwlio nhw. Cofiwch fod Duw, sydd yn y nefoedd, yn feistr ar y naill a'r llall ohonoch chi. Does ganddo fe ddim ffefrynnau!Croes
Arfwisg gan Dduw
10 Dyma'r peth olaf sydd i'w ddweud: Byddwch yn gryf, a chael eich nerth gan yr Arglwydd a'r pŵer aruthrol sydd ganddo fe. 11 Mae Duw wedi paratoi arfwisg i chi ei gwisgo yn y frwydr. Byddwch chi'n gallu gwneud safiad yn erbyn triciau slei y diafol. 12 Dyn ni ddim yn ymladd yn erbyn pobl. Mae'n brwydr ni yn erbyn y bodau ysbrydol sy'n llywodraethu, sef yr awdurdodau a'r pwerau tywyll sy'n rheoli'r byd yma; y fyddin ysbrydol ddrwg yn y byd nefol. 13 Felly gwisgwch yr arfwisg mae Duw'n ei rhoi i chi, er mwyn i chi ddal eich tir pan fydd pethau'n ddrwg, a dal i sefyll ar ddiwedd y frwydr. 14 Safwch gyda gwirionedd wedi ei rwymo fel belt am eich canol, cyfiawnder Duw yn llurig amdanoch,Croes 15 a'r brwdfrydedd i rannu'r newyddion da am heddwch gyda Duw yn esgidiau ar eich traed.Croes 16 Daliwch eich gafael yn nharian ffydd bob amser — byddwch yn gallu diffodd saethau tanllyd yr un drwg gyda hi. 17 Derbyniwch achubiaeth yn helmed ar eich pen,Croes a newyddion da Duw, sef cleddyf yr Ysbryd, yn arf yn eich llaw. 18 A beth bynnag ddaw, gweddïwch bob amser fel mae'r Ysbryd yn arwain. Cadwch yn effro, a dal ati i weddïo'n daer dros bobl Dduw i gyd. 19 A gweddïwch drosto i hefyd. Gweddïwch y bydd Duw'n rhoi'r geiriau iawn i mi bob tro bydda i'n agor fy nheg, er mwyn i mi rannu dirgelwch y newyddion da yn gwbl ddi-ofn. 20 Llysgennad y Meseia Iesu ydw i, mewn cadwyni am gyhoeddi ei neges. Gweddïwch y bydda i'n dal ati i wneud hynny'n gwbl ddi-ofn, fel y dylwn i wneud!
Cyfarchion i gloi
21 Bydd Tychicus, sy'n frawd annwyl iawn ac yn weithiwr ffyddlon i'r Arglwydd, yn dweud wrthoch chi sut mae pethau'n mynd a beth dw i'n ei wneud. 22 Dyna pam dw i'n ei anfon e atoch chi yn un swydd, i chi gael gwybod sut ydyn ni, ac er mwyn iddo godi'ch calon chi. 23 Frodyr a chwiorydd, dw i am i Dduw y Tad a'r Arglwydd Iesu Grist eich galluogi chi i fyw mewn heddwch, caru'ch gilydd ac ymddiried yn llwyr ynddo fe. 24 Dw i'n gweddïo y bydd pawb sy'n caru ein Harglwydd Iesu Grist o waelod calon yn profi o'i haelioni rhyfeddol.