Mc 3:8
Idwmea oedd yr enw ar yr ardal i’r de o Jwdea. Idwmea oedd y ffurf Roeg ar yr enw Edom, ond yma’n cyfeirio at yr ardal i’r gorllewin o ben isaf y Môr Marw. Yna mae’r ‘ardaloedd yr ochr draw i’r Iorddonen’ yn cyfeirio at Perea a Decapolis (sef Gwlad yr Iorddonen yn ein dyddiau ni). Wedyn, dinasoedd i’r gogledd o Israel, ar arfordir Phenicia (sef Libanus heddiw), oedd Tyrus a Sidon.
Felly’r hyn sy’n cael ei bwysleisio yma ydy’r ffaith fod pobl o bob cyfeiriad (ac o’r tu allan i Galilea) yn dod i wrando ar Iesu ac i gael eu hiacháu ganddo.
0