Numeri 35:11

Roedd y trefi lloches (BCN - dinasoedd noddfa) yn ffordd o reoli dial yn y gymdeithas. Roedd yn ffordd o amddiffyn rhywun oedd wedi lladd person arall yn ddamweiniol (‘dynladdiad anfwriadol’).  Byddai’r person yn cael achos llys teg i benderfynu os oedd y lladd yn ddamweiniol neu’n fwriadol.  (Mewn rhai llwythau nomadig yn y cyfnod hwnnw, os oedd rhywun wedi lladd person arall gallai perthynas y sawl a laddwyd ddial drwy ladd y lladdwr neu aelod o’i deulu.  Mae’r math yma o ddial yn dal i ddigwydd heddiw yn rhai rhannau o’r byd.)

0
tudalen blaen: 
0