Salm 121

Cân yr orymdaith.

1 Dw i'n edrych i fyny i'r mynyddoedd.

O ble daw help i mi?

2 Daw help oddi wrth yr ARGLWYDD,

yr Un wnaeth greu y nefoedd a'r ddaear.

 

3 Fydd e ddim yn gadael i dy droed lithro;

dydy'r Un sy'n gofalu amdanat ddim yn cysgu.

4 Wrth gwrs! Dydy'r un sy'n gofalu am Israel

ddim yn gorffwys na chysgu!

5 Yr ARGLWYDD sy'n gofalu amdanat ti;

mae'r ARGLWYDD wrth dy ochr di

yn dy amddiffyn di.

 

6 Fydd yr haul ddim yn dy lethu di ganol dydd,

na'r lleuad yn effeithio arnat ti yn y nos.

7 Bydd yr ARGLWYDD yn dy amddiffyn di rhag pob perygl;

bydd yn dy gadw di'n fyw.

8 Bydd yr ARGLWYDD yn dy gadw di'n saff

ble bynnag ei di,

o hyn allan ac am byth.

trefn: 
0
dyddiad anfon: 
dydd Sadwrn, Ionawr 9, 2016