1 Dyma'r neges roddodd yr ARGLWYDD i Hosea fab Beëri. Roedd yn proffwydo pan oedd Wseia, Jotham, Ahas a Heseceia yn frenhinoedd ar Jwda, a Jeroboam fab Jehoas, Ref yn frenin ar Israel.Croes
Gwraig a plant Hosea
2 Pan ddechreuodd yr ARGLWYDD siarad drwy Hosea, dwedodd wrtho: “Dos, a priodi gwraig sy'n puteinio. Bydd hi'n puteinio ac yn cael plant siawns. Mae fel y wlad yma, sy'n puteinio o hyd drwy droi cefn arna i, yr ARGLWYDD.”
3 Felly dyma Hosea yn priodi Gomer, merch Diblaim. Dyma hi'n cael ei hun yn feichiog, ac yn geni mab iddo.
4 A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Hosea, “Galw fe'n Jesreel, achos yn fuan iawn dw i'n mynd i gosbi llinach frenhinol Jehw am y tywallt gwaed yn Jesreel. Ref Dw i'n mynd i ddod â theyrnas Israel i ben.Croes5 Bydda i'n dinistrio grym milwrol Israel yn Nyffryn Jesreel.”
6 Pan oedd Gomer yn disgwyl babi eto, dyma hi'n cael merch y tro yma. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Hosea, “Galw hi'n Lo-rwhama (sef ‛dim trugaredd‛). Fydda i'n dangos dim trugaredd at wlad Israel o hyn ymlaen. Maen nhw wedi fy mradychu i.
7 Ond bydda i'n dangos trugaredd at wlad Jwda. Fi, yr ARGLWYDD eu Duw, fydd yn eu hachub nhw, nid arfau a grym milwrol a rhyfela.” Ref8 Cyn gynted ag roedd Gomer wedi stopio bwydo Lo-rwhama ar y fron, roedd hi'n feichiog eto, a dyma hi'n cael mab arall.
9 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Galw fe'n Lo-ammi (sef ‛dim fy mhobl‛). Achos dych chi ddim yn bobl i mi, a dw i ddim yn Dduw i chi.”
Gobaith i Israel
10 Ond yn y dyfodol, bydd poblogaeth Israel fel y tywod ar lan y môr – yn amhosib i'w cyfrif.Croes Yn yr union le lle dwedwyd wrthyn nhw, “Dych chi ddim yn bobl i mi” byddan nhw'n cael eu galw yn “blant y Duw byw”!Croes11 Bydd pobl Jwda a phobl Israel yn uno gyda'i gilydd. Byddan nhw'n dewis un arweinydd, ac yn codi eto o'r tir. Bydd hi'n ddiwrnod mawr i Jesreel! Ref
Roedd Hosea yn proffwydo yn Israel (teyrnas y gogledd) rhwng tua 750 a 722 C.C. Mae stormydd bywyd priodasol Hosea yn ddarlun o berthynas Duw gyda’i bobl Israel. Mae Duw yn dweud wrth Hosea am briodi putain o’r enw Gomer, ac mae’r berthynas rhwng y ddau yn siarad cyfrolau – dyn anrhydeddus, llawn cariad a’i wraig anffyddlon. Ar un pwynt mae Gomer yn mynd yn ôl i weithio fel putain, ond er hynny mae Hosea yn ei phrynu yn ôl iddo’i hun yn y farchnad.
Gwreiddyn problemau Israel oedd eu bod yn addoli eilunod (Mae Hosea’n defnyddio’r gair ‘godineb’ i ddisgrifio’r peth. Felly mae llyfr Hosea yn rhybuddio’r bobl am ganlyniadau bod yn anufudd iddo, ond hefyd yn cynnig bendith a gobaith os gwnân nhw droi cefn ar eu pechod. Mae’n ddarlun gwych o gariad rhyfeddol Duw at ei bobl anufudd. Dydy Duw ddim eisiau bod fel “meistr” ar ei bobl, mae eisiau bod fel “gŵr” sy’n dangos cariad a gofal amdanyn nhw.