Pennod 1
0m
1 Llythyr gan Paul, wedi fy newis gan Dduw i fod yn gynrychiolydd personol i'r Meseia Iesu. A gan y brawd Timotheus hefyd.
2 Dyn ni'n gweddïo y byddwch chi'n profi'r haelioni rhyfeddol a'r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni.
Y Duw sy'n cysuro
3 Clod i Dduw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist! Fe ydy'r Tad sy'n tosturio a'r Duw sy'n cysuro.
4 Mae'n ein cysuro ni yng nghanol ein holl drafferthion, felly dyn ni yn ein tro yn gallu cysuro pobl eraill. Dyn ni'n eu cysuro nhw trwy rannu am y ffordd mae Duw'n ein cysuro ni.
5 Po fwya dyn ni'n rhannu profiad y Meseia, mwya dyn ni'n cael ein cysuro ganddo.
6 Dyn ni'n gorfod wynebu trafferthion er mwyn i chi gael eich cysuro a'ch cadw'n saff. Pan dyn ni'n cael ein cysuro, dylai hynny hefyd fod yn gysur i chi, a'ch helpu chi i ddal ati pan fyddwch chi'n dioddef yr un fath â ni.
7 A dyn ni'n sicr y byddwch chi, wrth ddioddef yr un fath â ni, yn cael eich cysuro gan Dduw yr un fath â ni hefyd.
8 Dyn ni eisiau i chi ddeall ffrindiau annwyl, mor galed mae pethau wedi bod arnon ni yn nhalaith Asia. Roedd y pwysau yn ormod o lawer i ni ei ddal yn ein nerth ein hunain. Roedd yn ein llethu ni! Roedden ni'n meddwl ei bod hi ar ben arnon ni,
9 a'n bod ni wir yn mynd i farw.
Croes Ond pwrpas y cwbl oedd i ni ddysgu trystio Duw yn lle trystio ni'n hunain. Fe ydy'r Duw sy'n dod â'r meirw yn ôl yn fyw!
10 Mae wedi'n hachub ni y tro yma, a bydd yn ein hachub ni eto. A dyn ni'n gwbl hyderus y bydd yn dal ati i wneud hynny
11 tra byddwch chi'n ein helpu ni drwy weddïo droson ni. Wedyn bydd lot fawr o bobl yn diolch i Dduw am fod mor garedig tuag aton ni, yn ateb gweddïau cymaint o'i bobl.
Paul yn newid ei gynlluniau
12 Dyn ni'n gallu dweud gyda chydwybod glir ein bod ni wedi bod yn gwbl agored ac yn ddidwyll bob amser. Mae'n arbennig o wir am y ffordd dyn ni wedi delio gyda chi. Haelioni Duw sydd wrth wraidd y peth, nid doethineb bydol.
13 Dw i wedi siarad yn blaen yn fy llythyrau atoch chi — does dim i'w ddarllen rhwng y llinellau. Dych chi'n gwybod ei fod yn wir.
14 Dych chi wedi dechrau cydnabod hynny, a dw i'n gobeithio y byddwch yn dod i gydnabod y peth yn llawn. Wedyn pan ddaw'r Arglwydd Iesu yn ôl byddwch chi'n gallu bod yn falch ohonon ni a byddwn ni'n gallu bod yn falch ohonoch chi.
15 Gan fy mod i mor siŵr eich bod chi wedi deall hyn, roeddwn i wedi bwriadu eich bendithio chi ddwy waith.
16 Roeddwn i'n mynd i ymweld â chi ar fy ffordd i dalaith Macedonia a galw heibio eto ar y daith yn ôl. Wedyn byddech chi'n gallu fy helpu i fynd ymlaen i Jwdea.
Croes
17 Ond wnes i ddim hynny, felly ydych chi'n dweud mod i'n chwit-chwat? Ydw i yr un fath ag mae pobl y byd mor aml, yn dweud ‘ie’ un funud a ‘nage’ y funud nesa?
18 Nac ydw — mae Duw'n gwybod nad person felly ydw i. Dw i ddim yn dweud un peth ac wedyn yn gwneud rhywbeth arall.
19 A doedd dim byd ansicr am y neges roeddwn i a Silas
Ref a Timotheus yn ei chyhoeddi yn eich plith chi chwaith — sef y neges am Iesu y Meseia, mab Duw.
Croes Fe ydy ‘ie’ Duw i ni bob amser!
20 Fe ydy'r un sy'n dod â'r cwbl mae Duw wedi ei addo yn wir! Dyna pam dyn ni'n dweud ‘Amen’ (sef ‘ie wir!’) wrth addoli Duw — o achos y cwbl wnaeth e!
21 A Duw ydy'r un sy'n ein galluogi ni (a chithau hefyd!) i sefyll yn gadarn dros y Meseia. Dewisodd ni i weithio drosto,
22 ac mae wedi'n marcio ni'n bobl iddo'i hun. Mae wedi rhoi ei Ysbryd y tu mewn i ni, yn flaendal o'r cwbl sydd i ddod.
23 Dw i'n galw ar Dduw i dystio fy mod i'n dweud y gwir. Y rheswm pam wnes i ddim dod yn ôl i Corinth i'ch gweld chi wedi'r cwbl oedd fy mod i eisiau'ch arbed chi.
24 Dyn ni ddim eisiau'ch fforsio chi i gredu fel dyn ni'n dweud. Dyn ni eisiau gweithio gyda chi, i chi gael profi llawenydd go iawn, a sefyll yn gadarn am eich bod wedi credu drosoch eich hunain.
I'r pen