Mae’r efengyl ysgrifennodd Marc yn gryno ac yn llawn cynnwrf. Mae’n rhoi sylw i wyrthiau Iesu a’r cwbl ddioddefodd yn ystod ei fywyd. Roedd eisiau helpu’r Cristnogion oedd yn ysgrifennu atyn nhw i ymddiried yn Nuw, a dyfnhau eu perthynas nhw gyda Duw.
MARC 1
Ioan Fedyddiwr yn paratoi'r ffordd
(Mathew 3:1-12; Luc 3:1-18; Ioan 1:19-28)
1 Mae'r newyddion da am Iesu y Meseia, Mab Duw yn dechrau fel hyn: 2 Mae'n dweud yn llyfr y proffwyd Eseia:“Edrych – dw i'n anfon fy negesydd o dy flaen di,
i baratoi'r ffordd i ti” –Croes
3 “Llais yn gweiddi'n uchel yn yr anialwch,
‘Paratowch y ffordd i'r Arglwydd ddod!
Gwnewch y llwybrau'n syth iddo!’” Croes
4 Dyna beth wnaeth Ioan – roedd yn bedyddio pobl yn yr anialwch ac yn cyhoeddi fod hyn yn arwydd eu bod yn troi cefn ar eu pechodau ac yn derbyn maddeuant gan Dduw. 5 Roedd pobl cefn gwlad Jwdea a dinas Jerwsalem yn heidio allan ato. Pan oedden nhw'n cyfaddef eu pechodau roedd yn eu bedyddio nhw yn afon Iorddonen. 6 Roedd Ioan yn gwisgo dillad o flew camel gyda belt lledr am ei ganol, ac roedd yn bwyta locustiaid a mêl gwyllt. 7 Dyma oedd ei neges: “Mae un llawer mwy grymus na fi yn dod ar fy ôl i – fyddwn i ddim digon da i fod yn gaethwas yn plygu i lawr i ddatod carrai ei sandalau. 8 Dw i'n defnyddio dŵr i'ch bedyddio chi, ond bydd hwn yn eich bedyddio chi â'r Ysbryd Glân.”Bedydd Iesu a'i demtiad
(Mathew 3:13—4:11; Luc 3:21,22; 4:1-13)
9 Tua'r adeg yna daeth Iesu o Nasareth, Galilea i gael ei fedyddio gan Ioan yn yr Iorddonen. 10 Yr eiliad y daeth Iesu allan o'r dŵr, gwelodd yr awyr yn rhwygo'n agored a'r Ysbryd Glân yn disgyn arno fel colomen. 11 A dyma lais o'r nefoedd yn dweud: “Ti ydy fy Mab annwyl i; rwyt ti wedi fy mhlesio i'n llwyr.” 12 Yn syth wedyn dyma'r Ysbryd yn gyrru Iesu allan i'r anialwch. 13 Arhosodd yno am bedwar deg diwrnod, yn cael ei demtio gan Satan. Roedd anifeiliaid gwyllt o'i gwmpas, ond roedd yno angylion yn gofalu amdano.Galw'r disgyblion cyntaf
(Mathew 4:12-22; Luc 4:14,15; 5:1-11)
14 Ar ôl i Ioan gael ei roi yn y carchar aeth Iesu i Galilea a chyhoeddi newyddion da Duw. 15 “Mae'n amser!” meddai. “Mae'r foment wedi dod! Mae Duw yn dod i deyrnasu! Trowch gefn ar bechod a chredu'r newyddion da!” 16 Pan oedd Iesu'n cerdded wrth Lyn Galilea, gwelodd ddau frawd, Simon ac Andreas. Pysgotwyr oedden nhw, ac roedden nhw wrthi'n taflu rhwyd i'r llyn. 17 “Dewch,” meddai Iesu, “dilynwch fi, a gwna i chi'n bysgotwyr sy'n dal pobl yn lle pysgod.” 18 Heb oedi dyma'r ddau yn gollwng eu rhwydi a mynd ar ei ôl. 19 Ychydig yn nes ymlaen gwelodd Iago ac Ioan, dau fab Sebedeus. Roedden nhw wrthi'n trwsio eu rhwydi yn eu cwch. 20 Dyma Iesu'n eu galw nhw hefyd, a dyma nhw'n gadael eu tad Sebedeus gyda'r gweision yn y cwch a dechrau dilyn Iesu.Iesu'n bwrw allan ysbryd drwg
(Luc 4:31-37)
21 Wedyn dyma nhw'n mynd i Capernaum. Ar y dydd Saboth (pan oedd yr Iddewon yn addoli Duw), aeth Iesu i'r synagog a dechrau dysgu'r bobl. 22 Roedd pawb yn rhyfeddu at beth roedd yn ei ddysgu. Roedd yn wahanol i'r arbenigwyr yn y Gyfraith – roedd ganddo awdurdod oedd yn gwneud i bobl wrando arno. 23 Yna'n sydyn dyma ryw ddyn oedd yn y synagog yn rhoi sgrech uchel. (Roedd y dyn wedi'i feddiannu gan ysbryd drwg.) 24 “Gad di lonydd i ni, Iesu o Nasareth. Rwyt ti yma i'n dinistrio ni. Dw i'n gwybod pwy wyt ti – Un Sanctaidd Duw!” 25 “Bydd ddistaw!” meddai Iesu'n ddig. “Tyrd allan ohono!” 26 Dyma'r ysbryd drwg yn gwneud i'r dyn ysgwyd yn ffyrnig, yna daeth allan ohono gyda sgrech uchel. 27 Roedd pawb wedi cael sioc, ac yn gofyn i'w gilydd, “Beth sy'n mynd ymlaen? Mae'r hyn mae'n ei ddysgu yn newydd – mae ganddo'r fath awdurdod! Mae hyd yn oed ysbrydion drwg yn gorfod ufuddhau iddo.” 28 Roedd y sôn amdano yn lledu fel tân gwyllt drwy holl ardal Galilea.Iesu'n iacháu llawer o bobl
(Mathew 8:14-17; Luc 4:38-41)
29 Yn syth ar ôl gadael y synagog, dyma nhw'n mynd i gartref Simon ac Andreas, gyda Iago ac Ioan. 30 Yno roedd mam-yng-nghyfraith Simon yn ei gwely yn dioddef o wres uchel. Dyma nhw'n dweud wrth Iesu, 31 ac aeth e ati a gafael yn ei llaw, a'i chodi ar ei thraed. Diflannodd y tymheredd oedd ganddi, a dyma hi'n codi a gwneud pryd o fwyd iddyn nhw. 32 Wrth i'r haul fachlud Ref y noson honno dechreuodd pobl ddod at Iesu gyda rhai oedd yn sâl neu wedi'u meddiannu gan gythreuliaid. 33 Roedd fel petai'r dref i gyd yno wrth y drws! 34 Dyma Iesu'n iacháu nifer fawr o bobl oedd yn dioddef o wahanol afiechydon. Bwriodd gythreuliaid allan o lawer o bobl hefyd. Roedd y cythreuliaid yn gwybod yn iawn pwy oedd Iesu, ond roedd yn gwrthod gadael iddyn nhw ddweud gair.Iesu'n gweddïo a pregethu
(Luc 4:42-44)
35 Y bore wedyn cododd Iesu'n gynnar iawn. Roedd hi'n dal yn dywyll pan adawodd y tŷ, ac aeth i le unig i weddïo. 36 Dyma Simon a'r lleill yn mynd i edrych amdano, 37 ac ar ôl dod o hyd iddo dyma nhw'n dweud yn frwd: “Mae pawb yn edrych amdanat ti!” 38 Atebodd Iesu, “Gadewch i ni fynd yn ein blaenau i'r pentrefi nesa, i mi gael cyhoeddi'r newyddion da yno hefyd. Dyna pam dw i yma.” 39 Felly teithiodd o gwmpas Galilea, yn pregethu yn y synagogau a bwrw cythreuliaid allan o bobl.Dyn yn dioddef o'r gwahanglwyf
(Mathew 8:1-4; Luc 5:12-16)
40 Dyma ddyn oedd yn dioddef o'r gwahanglwyf yn dod ato ac yn pledio ar ei liniau o'i flaen, “Gelli di fy ngwneud i'n iach os wyt ti eisiau.” 41 Yn llawn teimlad, Ref dyma Iesu yn estyn ei law a chyffwrdd y dyn. “Dyna dw i eisiau,” meddai, “bydd lân!” ’42 Dyma'r gwahanglwyf yn diflannu y foment honno. Cafodd y dyn ei iacháu. 43 Dyma Iesu'n rhybuddio'r dyn yn llym cyn gadael iddo fynd: 44 “Gwna'n siŵr dy fod ti ddim yn dweud wrth unrhyw un beth sydd wedi digwydd. Dos i ddangos dy hun i'r offeiriad a chyflwyno beth ddwedodd Moses y dylet ei gyflwyno, yn dystiolaeth i'r bobl dy fod ti wedi cael dy iacháu.” Ref Croes 45 Ond dyma'r dyn yn dechrau mynd o gwmpas yn dweud wrth bawb beth oedd wedi digwydd. O ganlyniad, doedd Iesu ddim yn gallu mynd a dod yn agored mewn unrhyw dref. Roedd yn aros allan mewn lleoedd unig. Ond roedd pobl yn dal i ddod ato o bob cyfeiriad!