Mae efengyl Ioan yn wahanol i’r tair efengyl arall. Mae’n cyfeirio at saith o bethau sy’n arwyddion clir mai Iesu ydy Mab Duw.
IOAN 1
Daeth y Gair yn berson o gig a gwaed
1 Y Gair oedd yn bod ar y dechrau cyntaf.
Roedd y Gair gyda Duw,
a Duw oedd y Gair.
2 Roedd gyda Duw o'r dechrau cyntaf un.
3 Drwyddo y crëwyd popeth sy'n bod.
Does dim yn bodoli ond beth greodd e.
a'r bywyd hwnnw'n rhoi golau i bobl.
5 Mae'r golau'n dal i ddisgleirio yn y tywyllwch,
a'r tywyllwch wedi methu ei ddiffodd.
6 Daeth dyn o'r enw Ioan i'r golwg. Duw oedd wedi anfon Ioan i roi tystiolaeth – 7 i ddweud wrth bawb am y golau, er mwyn i bawb ddod i gredu drwy'r hyn oedd yn ei ddweud. 8 Dim Ioan ei hun oedd y golau; dweud wrth bobl am y golau roedd e'n ei wneud. 9 Roedd y golau go iawn, sy'n rhoi golau i bawb, ar fin dod i'r byd.ac er mai fe greodd y byd,
wnaeth pobl y byd mo'i nabod.
a chael ei wrthod
gan ei bobl ei hun.
12 Ond cafodd pawb wnaeth ei dderbyn,
(sef y rhai sy'n credu ynddo)
hawl i ddod yn blant Duw.
13 Dim am fod ganddyn nhw waed Iddewig
(Dim canlyniad perthynas rywiol a chwant gŵr sydd yma);
Duw sydd wedi'u gwneud nhw'n blant iddo'i hun!
14 Daeth y Gair yn berson o gig a gwaed;
daeth i fyw yn ein plith ni.
Gwelon ni ei ysblander dwyfol—
ei ysblander fel Mab unigryw
wedi dod oddi wrth y Tad
yn llawn haelioni a gwirionedd.
15 Dyma'r un roedd Ioan yn sôn amdano. Cyhoeddodd yn uchel, “Dyma'r un ddwedais i amdano, ‘Mae'r un sy'n dod ar fy ôl i yn bwysicach na fi. Roedd e'n bodoli o'm blaen i.’” 16 Ynddo fe mae un fendith hael wedi cael ei rhoi yn lle'r llall – a hynny i bob un ohonon ni! 17 Rhoddodd Moses Gyfraith Duw i ni; wedyn dyma rodd hael Duw a'i wirionedd yn dod i ni yn Iesu y Meseia. 18 Does neb erioed wedi gweld Duw, ond mae'r Mab unigryw hwn (sy'n Dduw ei hun, gyda'r berthynas agosaf posib â'r Tad), wedi dweud yn glir amdano.Ioan Fedyddiwr yn gwadu mai fe ydy'r Meseia
(Mathew 3:1-12; Marc 1:1-8; Luc 3:15-17)
19 Dyma'r arweinwyr Iddewig Ref yn Jerwsalem yn anfon offeiriaid a Lefiaid at Ioan Fedyddiwr i ofyn iddo pwy oedd. 20 Dwedodd Ioan yn blaen wrthyn nhw, “Dim fi ydy'r Meseia.” 21 “Felly pwy wyt ti?” medden nhw. “Ai Elias y proffwyd wyt ti?” “Nage” meddai Ioan. “Ai y Proffwyd soniodd Moses amdano wyt ti?” Atebodd eto, “Na.”Croes 22 “Felly, pwy ti'n ddweud wyt ti?” medden nhw yn y diwedd, “i ni gael rhoi rhyw ateb i'r rhai sydd wedi'n hanfon ni. Beth fyddet ti'n ei ddweud amdanat ti dy hun?” 23 Atebodd Ioan drwy ddyfynnu geiriau'r proffwyd Eseia: “ Llais yn gweiddi'n uchel yn yr anialwch, ‘Cliriwch y ffordd i'r Arglwydd!’Croes Dyna ydw i.” 24 Yna dyma'r rhai ohonyn nhw oedd yn Phariseaid 25 yn gofyn iddo, “Ond pa hawl sydd gen ti i fedyddio os mai dim ti ydy'r Meseia, nac Elias, na'r Proffwyd?” 26 Atebodd Ioan nhw, “Dŵr dw i'n ei ddefnyddio i fedyddio pobl. Ond mae yna un dych chi ddim yn ei nabod yn sefyll yn eich plith chi – 27 sef yr un sy'n dod ar fy ôl i. Fyddwn i ddim digon da i fod yn gaethwas i ddatod carrai ei sandalau hyd yn oed!” 28 Digwyddodd hyn i gyd yn Bethania Ref yr ochr draw i afon Iorddonen, lle roedd Ioan yn bedyddio.