Cafodd y llyfr hwn ei ysgrifennu i annog a chysuro credinwyr oedd yn cael eu herlid, a chadarnhau eu ffydd y bydd Duw yn gofalu amdanyn nhw. Mae’r awdur yn rhannu gweledigaethau a darluniau sumbolaidd sy’n dweud fod daioni yn mynd i drechu drygioni, ac y bydd Duw yn creu nefoedd a daear newydd.
DATGUDDIAD 1
Rhagair
1 Dyma ddangosodd y Meseia Iesu am beth sy'n mynd i ddigwydd yn fuan. Duw ddangosodd hyn iddo, i'w rannu gyda'r rhai sy'n ei ddilyn a'i wasanaethu. Anfonodd ei angel ata i ei was Ioan, 2 a dw i'n gallu tystio fy mod i wedi gweld y cwbl sydd yma. Mae'n neges oddi wrth Dduw – yn dystiolaeth sydd wedi'i roi gan y Meseia Iesu ei hun. 3 Bydd y person sy'n darllen y neges broffwydol hon i'r eglwys yn cael ei fendithio'n fawr. A hefyd pawb sy'n gwrando ar y neges yn cael ei darllen, ac yna'n gwneud beth mae'n ei ddweud. Mae'r amser pan fydd y cwbl yn digwydd yn agos.Cyfarchion
4 Ioan sy'n ysgrifennu, At y saith eglwys yn nhalaith Asia: Ref Dw i'n gweddïo y byddwch yn profi haelioni rhyfeddol a heddwch dwfn gan Dduw, yr Un sydd, ac oedd ac sy'n mynd i ddod; gan yr Ysbryd cyflawn perffaith sydd o flaen yr orsedd; 5 a hefyd gan y Meseia Iesu, y tyst ffyddlon, y cyntaf i gael ei eni i fywyd newydd ar ôl marw, a'r un sydd ag awdurdod dros holl frenhinoedd y ddaear.Croes Mae'n ein caru ni, ac mae wedi marw droson ni i'n gollwng ni'n rhydd fel bod pechod ddim yn ein rheoli ni ddim mwy. 6 Mae'n teyrnasu droson ni ac wedi'n gwneud ni i gyd yn offeiriaid sy'n gwasanaethu Duw, ei Dad! Fe sy'n haeddu pob anrhydedd a nerth, am byth! Amen!7 Edrychwch! Mae'n dod yn y cymylau!
Bydd pawb yn ei weld –
hyd yn oed y rhai a'i trywanodd!
Bydd pob llwyth o bobl ar y ddaear
yn galaru o'i achos e.Croes
Dyna fydd yn digwydd! Amen! 8 Mae'r Arglwydd Dduw yn dweud, “Fi ydy'r Alffa a'r Omega Ref – Fi ydy'r Un sydd, oedd, ac sy'n mynd i ddod eto, yr Un Hollalluog.”